Cyfarfod Cyhoeddus – Eisteddfod Genedlaethol 2020

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod yna fwriad i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Ngheredigion yn y flwyddyn 2020. Erbyn hyn, mae cynghorau tref y sir wedi cael gwahoddiad i lunio cais ar gyfer cynnal y Brifwyl.

eisteddfod2020_cyfarfod_2.3.2016

Mewn cyfarfod o Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan nos Iau, 25 Chwefror, penderfynwyd cynnal cyfarfod agored i drafod y syniad a mynd ati i lunio cais i roi cartref i Eisteddfod 2020 yn Llambed a’r fro.

Os oes gennych ddiddordeb, naill ai fel unigolyn, neu fudiad, sefydliad, busnes, neu gwmni, dewch ynghyd i festri Shiloh nos Fercher, 2 Mawrth, 7.30pm.