Gŵyl y Geni yn Noddfa

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Eleni am y tro cyntaf, cynhyrchwyd posteri a thaflenni syml gan eglwys y Bedyddwyr yn Noddfa, i’w rhannu ymhlith rhai o drigolion Cymraeg tref Llanbedr Pont Steffan.

Tynnwyd sylw ar y daflen at dair oedfa benodol a gwahanol dros ŵyl y Nadolig yn rhoi’r lle canolog i Iesu.

gwahoddiadaudolig2015-noddfallambed

Cynhaliwyd y gyntaf, gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul, ar 13 Rhagfyr. Eleni eto, bu’r plant a’r bobol ifanc yn ein harwain at Stori’r Geni, ac hefyd yn ôl ei arfer, daeth Siôn Corn ar ymweliad â ffyddloniaid Noddfa! Diolch i Janet Evans am ei hymroddiad di-flino gyda phlant yr Ysgol Sul gydol y flwyddyn, ac i bawb a gymerodd ran ac a fu’n hwyluso’r trefniadau yn yr oedfa hon.

Bu’r ail oedfa ar fore dydd Nadolig, yn naturiol, yn canolbwyntio ar eni Iesu. Oedfa fer oedd hon dan ofal ein gweinidog, y Parchedig Jill Tomos, er mwyn rhoi cyfle i deuluoedd fynd yn ôl i’w haelwydydd ac i gario mlaen â pharatoi’r cinio! Ond roedd hi’n braf cael rhoi hanner awr o’r neilltu i ystyried pam rydym ni’n dathlu’r Nadolig, ac i ddod at ein gilydd fel teulu’r eglwys.

Cynhaliwyd y drydedd oedfa ar Sul cyntaf 2016. Menter newydd sbon i Noddfa, sef gwasanaeth carolau yng ngolau cannwyll. Ry’n ni’n dibynnu’n rhwydd iawn ar y switsh trydan i gael golau, ond roedd naws ac awyrgylch hyfryd yn y capel wrth i’r aelodau ddarllen gwahanol rannau o’r Beibl er mwyn ail-fyw hanes geni Iesu a’i bwrpas yn ein byd, a chanwyd detholiad o garolau cyfarwydd. Diolch i Jill Tomos, Janet Evans ac Ann Bowen Morgan am drefnu’r oedfa.

Os am wybod mwy am eglwys Noddfa ac am eglwysi Bedyddwyr eraill y cylch, mynnwch olwg ar ein gwefan www.bedyddwyrgogleddteifi.org