Noson o Ddramâu

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

PosterNosonDramauBu Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Cymru yn brysur yn ddiweddar yn llwyfannu gwahanol ddramâu. Wythnosau o baratoi, diwrnodau o ymarfer, oriau o bleser! Ond os na chawsoch chi gyfle i weld a chefnogi’r clybiau i gyd, na phoenwch – bydd tri Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol i ardal Clonc yn llwyfannu’u dramâu eto nos Lun, 7 Mawrth, yn Theatr Felinfach.

Cynhelir y Noson o Ddramâu gan bwyllgor Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan – neu “Steddfod Llambed” ar lafar, ac i fod yn dwt a chryno! Oherwydd ein bod yn dibynnu yn helaeth ar dalentau cefn gwlad ac aelodau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc, mae’n dda dod â’r ddau beth at ei gilydd – traddodiad yr eisteddfod a mudiad y CFfI.

Actorion CFfI Llanllwni
Actorion CFfI Llanllwni

Yn naturiol, rydym wedi troi at glybiau Ceredigion a Sir Gâr, felly cewch gyfle i fwynhau talentau CFfI Llanllwni, Pontsian a Dyffryn Cothi.

Arweinydd y noson fydd Manon Richards, Llanbedr Pont Steffan, a’r Llywydd fydd Einir Ryder, Cwmsychpant – dwy sydd wedi chwarae’u rhan ar lwyfannau eisteddfod ac yn weithgar gyda’r Ffermwyr Ifanc.

Tocynnau yn £5 ar gael yn uniongyrchol o Theatr Felinfach. https://theatrfelinfach.ticketsolve.com/shows/873546640/events?locale=cy-CY

Mae gan Steddfod Llambed bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol – cofiwch ddilyn a hoffi i weld y diweddaraf am yr eisteddfod, wrth i fis Awst agosáu:
Facebook: https://www.facebook.com/SteddfodLlanbed/
Twitter: https://twitter.com/steddfodllanbed