Testunau llên Eisteddfod Llambed

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Mae rhestr testunau llenyddol Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan nawr ar gael. Beth am fynd ati i geisio’r awen a meddwl am syniadau? Dyma’r ddogfen ar eich cyfer: Testunau llenyddol 2016

logo rtj heb rif

Fel y gwyddoch, mae Eisteddfod Llambed yn un o brif eisteddfodau Cymru ac yn dibynnu’n helaeth ar wirfoddolwyr lleol – i fod ar y pwyllgor gwaith, pwyllgorau adrannol, i baratoi ar gyfer yr ŵyl sy’n para tridiau ac i stiwardio a gweithio’n ymarferol ynddi a thuag ati. Rydym yn ddibynnol ar nawdd a rhoddion ariannol, ond fel mewn sawl maes, mae toriadau i’w gweld yng nghoffre’r Eisteddfod hefyd. Os ydych chi – fel unigolion, teuluoedd, busnesau, cwmnïau neu gymdeithasau – yn dymuno rhoi rhywbeth (swm bach neu fawr tuag at gynnal ein heisteddfod), byddem yn falch iawn o glywed gennych. Diolch i chi am gefnogi un o’n prif wyliau sy’n gonglfaen diwylliant y fro.
https://www.facebook.com/SteddfodLlanbed
https://twitter.com/steddfodllanbed