Roedd penwythnos Gŵyl Banc Mai yn un i’w gofio i Mrs Ann Bowen Morgan, un o aelodau ffyddlon Noddfa oherwydd ar y nos Wener fe’i hetholwyd yn Faer tref Llanbedr Pont Steffan mewn seremoni bwysig yng Ngholeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Hefyd penodwyd Rob Phillips, trysorydd gweithgar Noddfa fel Diprwy-Faer. Consort y Maer bydd ei phriod Densil. Mae Ann a Rob nid yn unig yn weithgar iawn yn Noddfa ond hefyd yn y gymuned. Diolch i Dduw amdanynt.
Offrymwyd gweddi agoriadol gan y Parchedig Jill Tomos, Caplan y Maer. Cyflwynodd Ann anerchiad gwych gan ddiolch i’r Cyngor am yr anrhydedd o gael bod yn Faer ac addawodd i wneud ei gorau dros y dref yn ystod y flwyddyn. Daeth y seremoni i ben wrth i ni wrando ar unawd hyfryd gan Mrs Carys Lewis a Miss Lois Williams yn cyfeilio ac yna ymunodd pawb i ganu’r Anthem Genedlaethol i gyfeiliant Delyth Morgans Phillips. Cyn troi tuag adre cafwyd cyfle i gymdeithasu wrth fwynhau bwffe ardderchog.
Ar y Sul canlynol, braf oedd gweld cynulliad teilwng wedi dod ynghyd i addoli Duw yn Oedfa’r Maer yn Noddfa. Wedi tipyn o grafu pen yn ystod yr wythnosau diwethaf, daethom i’r casgliad bod Oedfa’r Maer wedi ei chynnal yn Noddfa flynyddoedd maith yn ôl ym 1976 pan ddaeth y diweddar Glyn Jones Sawmills, neu’r Llew Du yn Faer ac yn aelod yng Nghaersalem. Ar ôl cyfnod mor hir, mae’n anodd credu y cynhaliwyd un yn Noddfa ddwy flynedd yn olynol! Pwy fydd y trydydd tybed?
Ar ran swyddogion ac aelodau’r eglwys croesawyd pawb, yn gynrychiolwyr etholedig, yn gynrychiolwyr sefydliadau a chymdeithasau’r dref a’r cyffiniau, yn gyfeillion ac aelodau’r eglwysi i’r Oedfa arbennig hon gan ein Gweinidog y Parchedig Jill Tomos. Soniodd mai braint enfawr oedd croesawu pawb a’n bod yn ymhyfrydu bod Cyngor tref Llambed wedi ethol un o aelodau gweithgar Noddfa yn Faer sef Mrs Ann Bowen Morgan sydd yn ddiacon ac yn ysgrifennydd ymroddgar gyda ni.
Cyhoeddwyd yr emynau gan Rob, Janet a John, bu’r Maer yn darllen rhan o’r Gair ac offrymwyd gweddi gan ei phriod Densil. Hefyd pleser oedd gwrando ar ddatganiad swynol gan Elan o’r emyn ‘Gweddi’r Arglwydd’ o waith Eric Jones a Delyth yn cyfeilio. Cyfoethogwyd yr oedfa yn fawr gan neges amserol ein Gweinidog yn seiliedig ar adnodau allan o’r Bregeth ar y Mynydd. Diolchodd Alun i’r Gweinidog am ei chyfraniad gwerthfawr, i’r aelodau oedd wedi cymryd rhan, i Llinos am ei gwasanaeth wrth yr organ ac i bawb oedd wedi dod ynghyd. Cyn canu’r emyn olaf, cyflwynwyd tusw o flodau i Ann gan ein Gweinidog ar ran yr aelodau gan ei llongyfarch yn galonnog a dymuno’n dda iddi yn ystod y flwyddyn. Tystiai pawb mai da oedd bod yn bresennol mewn oedfa llawn bendithion.