Canlyniadau TGAU – clod i Fro Pedr

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Heddiw, derbyniodd disgyblion ysgolion uwchradd y wlad eu canlyniadau TGAU. Aeth Clonc360 i Ysgol Bro Pedr i holi rhai o’r disgyblion am eu profiadau o’r diwrnod.

(Becca Roberts, Hanna Davies, Daniel Jones, Elan Jones, Elin Williams)

Meddai Elan Jones: “Rydyn ni’n bles iawn gyda’r canlyniadau, ac yn edrych ’mlaen at y dyfodol.” Bwriad y rhan fwyaf o’r disgyblion yw mynd ymlaen i’r chweched dosbarth.

Cafodd Hubert Michalski 3A*, 3A, a 4B. Meddai hyn wrth Clonc360 am ei brofiadau: “Y peth pwysig yw i gymryd popeth yn araf, ac i beidio â meddwl am bopeth, am bob pwnc, ar yr un pryd – dim ond un ar y tro.”

Clod i’r ysgol

Y ganran lwyddo ar gyfer yr ysgol oedd 95%, ac roedd un ym mhob pum disgybl wedi derbyn o leiaf 5 gradd A*/A.

Mewn datganiad, dywedodd y Pennaeth, Jane Wyn:

“Rydym yn falch iawn o lwyddiant pob disgybl, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

“Mae llwyddiant y disgyblion yn adlewyrchu yr holl waith caled, safonau addysgu uchel yr Ysgol a chymorth gwerthfawr y rhieni a’r Llywodraethwyr.”

Rhai o’r perfformiadau gorau oedd: Catrin Schroder –  12 A*/A; Milosz Zgorski – 9 A*/A, 2 B; Lauren Hill – 9 A*/A, 2 B; Aaron McKay – 9A*/A, 3 B; Aisvarya Sridar – 9 A*/A, 2 B.