Llanwenog yn dod i’r brig yn y Rali

gan SionedDavies

Mae Mis Mai yn fis prysur iawn yng nghalendr y ffermwyr ifanc wrth i bawb paratoi tuag at binacl y flwyddyn sef y Rali. Gyda phawb wedi gweithio’n galed tuag at y diwrnod mawr roedd hi’n bryd teithio i Ynysforgan yn Lledrod.

Cawsom groeso cynnes gan y clwb.  Dechreuodd y cystadlu’n frwd am 9 y bore. Roedd yn ddiwrnod prysur llawn cyffro i’r clwb a dyma ganlyniadau’r dydd:

Tîm Barnu Defaid Mule Cymreig (Elin, Osian, Ben): 2il
Eitem i gyfleu Hwiangerdd (Meinir a Carwyn): 1af
Blodau (Meryl Evans): 6ed
Coginio (Meleri a Sioned Fflur): 7fed
Crefft (Bleddyn Jones): 2il
Cystadlaethau’r Aelodau: 3ydd
Cneifio dan 26ain (Steffan Jenkins): 2il
Trin Gwlân (Ffion Jenkins): 3ydd
Canu: 6ed
Dawnsio: 2il
Gêm y Cenedlaethau (Hafwen a Carys): 2il
Arddangosfa Cylch: 2il

Ar ddiwedd y dydd enillodd y clwb Cwpan Her Lloyd Jack am yr 2il glwb mwyaf llwyddiannus yn ystod flwyddyn.

Ond y pinacl i ni o’r diwrnod oedd clywed canlyniadau terfynol y diwrnod yn nodi taw Llanwenog oedd enillwyr Rali 2019!

Hoffem fel aelodau ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda’r holl baratoadau yn ystod yr wythnosau diwethaf ac edrychwn ymlaen nawr i’ch croesawu chi gyd i Rali Llanwenog 2020!