#AtgofLlanbed – ‘Y “family affair” gore ’rioed.’ 

Fy atgofion i, Lowri Elen, o fod yng nghanol bwrlwm Eisteddfod Llambed dros y blynyddoedd.

gan Lowri Elen Jones
IMG_5363-1

Y fraint o ganu Can y Cadeirio yn y Seremoni Caderio’r Bardd.

Dros yr holl flynyddoedd, braint ac anhrydedd yw hi i fod yn rhan o dîm a theulu gwych Eisteddfod Llambed. Ugain mlynedd nôl ar benwythnos Gŵyl Banc Awst, fe wnes i ganu ac adrodd am y tro cyntaf ar lwyfan. Sain cofio’n union sut deimlad oedd hi ond wrth edrych nôl dyna’r syniad gorau gath mam a mamgu sef fy rhoi ar lwyfan i berfformio – oedd dim stop arnai wedyn a bant a fi i bob steddfod dan haul, ond, yn sicr, yn Eisteddfod Llambed y plannwyd yr hadau cyntaf ym myd y cystadlu. Wrth gwrs, doedd dim pwysau o gwbwl yn yr eisteddfod gyda Dad yn Ysgrifennydd, Mam yn Drysorydd, Tadcu yn Birf Stiward, heb anghofio Mamgu yn Ysgrifenyddes yr Adran Gerdd.

Yn bwten fach o groten, rwy’n cofio rhedeg ar hyd y coridorau, cuddio yn y garafan, stwffio losin a siocled o fan fwyd Dorothy (er y rhybuddion am beidio gan mam!) ac ynghaol y cwbwl, cystadlu ar ganu ac adrodd. Sut na fues i’n sal, duw a ŵyr?! Does dim un steddfod wedi pasio heb i mi gystadlu, ac er y llwyddiannau a cholli bob hyn a hyn, fel ym mhob steddfod arall, mae steddfod Llambed yn agos iawn at fy nghalon a mae ennill yn fy milltir sgwâr hyd yn oed yn fwy melys.

Mae’r penwythnosau bob amser wedi bod yn llawn bwrlwm o egni a phrysurdeb yn ein tŷ ni a dim hyd yn oed tawelwch ar fore Sul lle roeddwn yn mynychu Oedfa’r Eisteddfod ac yn cymryd rhan yn achlysrol. Na i fyth anghofio canu mewn un Oedfa pan oeddwn yn fychan a finne yn mynnu perfformio yn y pulpud, (er nad oedd neb yn medru fy ngweld gan fy mod mor fyr.) Felly tadcu ddaeth i’r adwy a chreu step bren i mi, fel bo pawb yn medru fy ngweld – syniad da Tadcu. Mae’r step dal gennyf heddiw.

Rhaid oedd cystadlu ym mhob cystadleuaeth yn yr Eisteddfod, boed yn gerdd dant, llefaru darn o’r ysgrythur, sioe gerdd a’r offerynnol (odd ddim yn dda iawn, ond odd rhaid neud!) – dim ond i enwi rhai. Rhaid oedd hyd yn oed cal shot ar y cystadlaethau Celf a Chrefft – Mamgu, fi a Tomos wrthi fel slecs yn tynnu lluniau, addurno llwyau pren, creu cardiau ….. ac er ein bod ni’n trial ein gore, odd e’n amlwg mai trial o ni fyd – na’i adel y busnes tynnu llunie a pheitio i rywun arall, nai sticio i berfformio ar lwyfan! 

Mae gennym gymuned glos iawn yma yn Eisteddfod Llambed, sydd hefyd yn wir am y ddwy Eisteddfod arall sydd o dan ymabrel Rhys Thomas James, Patyfedwen. Mae pawb yn cefnogi ei gilydd a minnau yn fy nhro wedi cystadlu droeon yn Aberteifi a Phontrhydfendigaid. Er bod stamp a nodweddion gwahanol ac unigryw i bob un, mae’r croeso yn unol a chartefol.

Dros y blynyddoedd dwethaf ar y nos sadwrn yma yn Llambed. Mae pawb yn cymryd rhan ac yn joio tynnu coes ein gilydd a neb yn becso am ganu allan o diwn yn yr ensemble neu anghofio geiriau yn yr emyn. Mae’r hwyl yn heintus a chymuned Gymreig y dre yn amlygu. 

Braint oedd rhoi help llaw i mamgu gydag threfniadau cerdd yr eisteddfod gan sicrhau fod pob dim yn ei le, pob rhestr yn berffaith a phob beriniad mewn gwely cyfforddus yn yr adral! Cyfnod ‘mad’ yw pob Gŵyl y Banc, fis Awst yn ein tŷ ni (eithriad eleni wrth gwrs), dad a’i seremoniau, mam yn poeni am yr arian, ond mamgu yn eitha’ cŵl! Fi yn stresso a gadel popeth tan y funud ola’ – beth i ganu?! beth i adrodd!, ac angen darnau gwahanol i’r cystadlaethau Sadwrn a Llun. Felly dyma dynnu’r un hen bethau allan o’r ffeil a mamgu yn dweud ‘ma’n iawn bydd neb yn cofio!!’ 

Wel fi ‘di ysgrifennu digon nawr shwr a fod, ond cyn gorffen rhaid sôn am ddau berson arbennig iawn. Fydd yr Eisteddfod fyth yr un peth heb mamgu a tadcu, y ddau yn eistedd yn y ffrynt yn joio mas draw drwy’r penwythnos – ond hebddynt (yn enwedig mamgu) fydden i ddim y person ydw i heddi. Felly diolch iddyn nhw, yr Eisteddfod, ac wrth gwrs dad a mam am bob cyfle dros yr holl flynyddoedd – bydden i ddim yn newid dim. Ac er fod yr Eisteddfod yn llawer LLAWER mwy na’n teulu ni, fi’n gweud wrthoch chi nawr, gewch chi ddim ‘family affair’ gwell.