Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
Mewn cyfnod diflas lle mae pob gweithgaredd yn cael ei ohirio oherwydd y Coronafeirws, mae gan CFfI Ceredigion rywfaint o newyddion da!
Bydd enwau swyddogion newydd y mudiad am y flwyddyn nesaf, sef y Ffarmwr Ifanc, y Frenhines a’u Dirprwyon, yn cael eu cyhoeddi ar Facebook am 7yh heno.
?CYHOEDDI SWYDDOGION ?Gan na fydd Dawns Dewis Swyddogion heno, mi fyddwn yn cyhoeddi swyddogion newydd y Sir ar ein…
Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Friday, 20 March 2020
Mae’n gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd i bawb ond mae CFFI Llanllwni yma i helpu’r gymuned os oes angen.
Gwirfoddolwyr wedi eu lleoli yn ardaloedd Llanllwni, Maesycrugiau, Llanybydder, New Inn a Phencader.
Peidiwch ag oedi i gysylltu!
Dyddiad derbyn newyddion a lluniau ar gyfer rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc yw Dydd Llun 23ain Mawrth ac anogwn bawb i ddanfon eu newyddion yn gynnar yn yr un ffordd ag arfer.
Gwelwn fod cyhoeddi Papur Bro Clonc cyn bwysiced yn y cyfnod anodd hwn nag erioed. Teimlwn y gall Clonc leddfu ychydig ar y profiad o hunan ynysu rhag y Coronafeirws.
Ond oherwydd y perygl o ledu’r haint ni allwn ofyn i wirfoddolwyr gynorthwyo gyda’r plygu na’r dosbarthu yn ystod y misoedd nesaf. Felly bwriadwn gyhoeddi rhifyn digidol yn unig.
Gellir darllen y rhifyn nesaf ar eich ffôn / llechen / cyfrifiadur ar wefan www.clonc.co.uk
Bydd ar gael drwy’r byd i gyd.
Gallwch argraffu copïau eich hunain ar gyfer eraill sydd heb offer digidol.
Bydd y copi digidol am ddim ar y we a ni fydd rhaid mynd i’r siop i’w brynu.
Neges gan Ganolfan Hamdden a Phwll Nofio Llambed.
Rydym wedi trafod y sefyllfa bresennol fel swyddogion ac arweinyddion ac yn sgil cyngor wrth y Sir ac NFYFC i ohirio unrhyw weithgaredd CFfI am 12 wythnos rydym wedi penderfynu gohirio’r Cinio Dathlu oedd i’w gynnal ar 13 o Fehefin.
Gobeithiwn yn fawr y gallwn aildrefnu’r cinio yn hwyrach yn y flwyddyn a bydd unrhyw docynnau sydd eisoes wedi eu harchebu/ prynu i’r cinio yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
Gwerthfawrogi yn fawr os byddai modd i chi lledaenu’r neges mor eang â phosibl.
Gyda thristwch mae pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan wedi penderfynu canslo’r digwyddiad eleni yn unol â sefydliadau tebyg eraill. Rhannwch y cyhoeddiad hwn os gwelwch yn dda.
Yn anffodus, o achos Covid 19 rhaid gohirio Eiteddfod Gadeiriol Capel y Groes ger Llanwnnen tan y flwyddyn nesa.
Mae aelodau CFfI Cwmann ar gael i helpu unrhyw un sydd angen cymorth o fewn y gymuned gyda siopa bwyd, casglu meddiginiaeth a sgwrs ffon.
Mae dyddiad cau newyddion rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc Dydd Llun nesaf 23ain Mawrth. Danfonwch eich newyddion a’ch lluniau atom.
Ond a fydd cynhyrchu’r papur yn bosibl? Beth am blygu a dosbarthu yng nghysgod y Coronafeirws?
Beth am y gwerthiant? Gallwn wynebu tipyn o golled.
Ar y llaw arall bydd mwy o alw nag erioed am ddeunydd darllen oherwydd yr hunan ynysu.
Mwy o fanylion i ddilyn.
Gyda chalon drom mae Kees Huysmans wedi penderfynu rhoi’r gorau i ymarferion Côr Pam Lai? yn Llanbed oherwydd cyfyngiadau’r Coronafeirws. Gan ddiolch i’r criw hwyliog a fynychai’r ymarferion, gobeithia ail gynnau’r brwdfrydedd yn y dyfodol agos.