BLOG BYW: Ymateb Llanbed a’r fro i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.

22:31

Gyda thristwch mae pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan wedi penderfynu canslo’r digwyddiad eleni yn unol â sefydliadau tebyg eraill. Rhannwch y cyhoeddiad hwn os gwelwch yn dda.

22:04

Yn anffodus, o achos Covid 19 rhaid gohirio Eiteddfod Gadeiriol Capel y Groes ger Llanwnnen tan y flwyddyn nesa.

21:42

Mae aelodau CFfI Cwmann ar gael i helpu unrhyw un sydd angen cymorth o fewn y gymuned gyda siopa bwyd, casglu meddiginiaeth a sgwrs ffon.

No photo description available.

21:02

Mae dyddiad cau newyddion rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc Dydd Llun nesaf 23ain Mawrth. Danfonwch eich newyddion a’ch lluniau atom.

Ond a fydd cynhyrchu’r papur yn bosibl? Beth am blygu a dosbarthu yng nghysgod y Coronafeirws?

Beth am y gwerthiant? Gallwn wynebu tipyn o golled.

Ar y llaw arall bydd mwy o alw nag erioed am ddeunydd darllen oherwydd yr hunan ynysu.

Mwy o fanylion i ddilyn.

20:38

Gyda chalon drom mae Kees Huysmans wedi penderfynu rhoi’r gorau i ymarferion Côr Pam Lai? yn Llanbed oherwydd cyfyngiadau’r Coronafeirws. Gan ddiolch i’r criw hwyliog a fynychai’r ymarferion, gobeithia ail gynnau’r brwdfrydedd yn y dyfodol agos.

20:13

Mae arwerthiant blynyddol Capel Aberduar Llanybydder heno wedi cael ei ganslo.

17:42

16:57

Busnes Bro y dydd – sylw i siop D L Williams ar stryd fawr Llanbed.

Hoffai eich busnes chi gael hwb a sylw ychwanegol yn y cyfnod heriol yma? Rhowch wbod isod!

Busnes bro y dydd – D. L. Williams, Llanbed

Gohebydd Golwg360

Ymateb busnesau bach lleol i heriau’r coronafeirws

14:40

Côr agored ar Facebook yn codi calon

Wrth ymateb i’r holl newyddion am y coronafeirws ar hyd gwefannau cymdeithasol a’r cyfryngau  mae rhai wedi mynd ati i geisio codi calonnau gyda chân, yng ngwir draddodiad y Cymry.

Syniad Catrin Angharad Jones o Ynys Môn ydi’r dudalen Facebook “CÔR-ONA!”

Mae Catrin yn gyn-athrawes, yn gantores, arweinyddes, beirniad a nawr yn helpu i ddiddanu’r genedl a’r rhai sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn barod.

Ers i’r dudalen ymddangos fore dydd Mawrth, (Mawrth 17), mae dros 4,000 o aelodau wedi ymuno, os hoffech chi ymuno yn yr hwyl cliciwch yma.

Darllenwch fwy am y stori ar golwg360

13:37

Gwyliau’r Pasg i ddechrau’n gynnar