BLOG BYW: Ymateb Llanbed a’r fro i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.

16:57

Busnes Bro y dydd – sylw i siop D L Williams ar stryd fawr Llanbed.

Hoffai eich busnes chi gael hwb a sylw ychwanegol yn y cyfnod heriol yma? Rhowch wbod isod!

Busnes bro y dydd – D. L. Williams, Llanbed

Gohebydd Golwg360

Ymateb busnesau bach lleol i heriau’r coronafeirws

14:40

Côr agored ar Facebook yn codi calon

Wrth ymateb i’r holl newyddion am y coronafeirws ar hyd gwefannau cymdeithasol a’r cyfryngau  mae rhai wedi mynd ati i geisio codi calonnau gyda chân, yng ngwir draddodiad y Cymry.

Syniad Catrin Angharad Jones o Ynys Môn ydi’r dudalen Facebook “CÔR-ONA!”

Mae Catrin yn gyn-athrawes, yn gantores, arweinyddes, beirniad a nawr yn helpu i ddiddanu’r genedl a’r rhai sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn barod.

Ers i’r dudalen ymddangos fore dydd Mawrth, (Mawrth 17), mae dros 4,000 o aelodau wedi ymuno, os hoffech chi ymuno yn yr hwyl cliciwch yma.

Darllenwch fwy am y stori ar golwg360

13:37

Gwyliau’r Pasg i ddechrau’n gynnar

12:49

Stori newydd am yr ymateb gan fusnesau stryd fawr Llanbed i’r helynt:

“Mae stwff garddio wedi mynd yn mental” – sut mae busnesau Llanbed yn ymdopi?

Gohebydd Golwg360

Siopau’n prysuro a llefydd bwyta’n tawelu, a busnesau bach yn addasu er mwyn cadw’r drysau’n agored.

10:13

Mae diogelwch ein gwirfoddolwyr, cefnogwyr, ymwelwyr, cystadleuwyr, artistiaid a staff yn hollbwysig i ni, felly mae angen i ni gydweithio gyda phawb i gefnogi ein cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’r sefyllfa sy’n wynebu’r Eisteddfod Genedlaethol, fel cymaint o ddigwyddiadau eraill ym mhob cwr o Gymru, yn newid yn ddyddiol, ac rydym yn parhau i adolygu a datblygu ein cynlluniau er budd pawb ar hyn o bryd.  Rydym yn parhau i fonitro datblygiadau ynghyd â’r canllawiau a’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ein partneriaid allweddol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Byddwn yn diweddaru pawb drwy gyfrwng ein cylchlythyr, ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a’r wasg a’r cyfryngau yn rheolaidd gydag unrhyw newyddion neu gyhoeddiadau.  Dylech sicrhau eich bod wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, a gellir gwneud hyn drwy’r wefan, www.eisteddfod.cymru.

Rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth barhaus.

 

Mae’r wybodaeth isod yn gyfredol ar ddydd Mercher 18 Mawrth 2020.

 

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Rydym yn monitro’r sefyllfa’n barhaus ac mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid allweddol.  Ar hyn o bryd, ein gobaith yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst, ac mae’r staff yn parhau i weithio’n galed er mwyn gwireddu hyn.

Os bydd newid i’r cynlluniau hyn, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda stondinwyr, carafanwyr, contractwyr, rhanddeiliaid a’n holl dimoedd ar lawr gwlad, ac yn hysbysu pawb arall drwy’r sianeli a amlinellwyd uchod.

Mae’r neges yma’n berthnasol i garafanwyr, stondinwyr a’r rheini sydd eisoes wedi archebu tocynnau ar gyfer Maes B.

Gweithgareddau Cymunedol

Mae nifer fawr o weithgareddau lleol wedi’u trefnu ar draws dalgylch Eisteddfod Ceredigion a Llŷn ac Eifionydd dros yr wythnosau nesaf.  Gyda Llywodraeth y DU yn annog pobl i ddechrau osgoi cyswllt cymdeithasol, rydym yn teimlo y dylid mynd ati i ohirio gweithgareddau codi arian ar hyn o bryd.

Rydym yn mawr obeithio y bydd modd ail-gydio yn yr ymgyrchu yn fuan, ond am y tro, mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd sylw o’r cyngor sydd wedi’i roi gan arbenigwyr meddygol.

Ar hyn o bryd, mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio unrhyw gyswllt cymdeithasol ar helpu ein gilydd, ac rydym yn sicr y bydd nifer fawr o’n cefnogwyr ar lawr gwlad yn mynd ati i gefnogi a chynnig cymorth i rai sy’n fwy bregus o fewn ein cymdeithas.

Rydym yn galw arnoch oll i gymryd gofal yn ystod cyfnod a fydd yn anodd, ac rydym yn gobeithio y gallwn ail-afael yn y gwaith cymunedol yn fuan iawn.

Cyfarfodydd Pwyllgorau

Mae cyfarfodydd pwyllgorau’r Eisteddfod wedi’u gohirio ar hyn o bryd.  Byddwn yn cysylltu gyda phob pwyllgor er mwyn cadarnhau hyn, ac edrych ar ffyrdd amgen o gadw mewn cysylltiad.

Os ydych yn aelod o bwyllgor ac angen gwybodaeth, cysylltwch â chadeirydd y Pwyllgor neu’r swyddog yn Swyddfa’r Eisteddfod sy’n gweinyddu eich pwyllgor.

Cystadlaethau Cyfansoddi

1 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau cyfansoddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.  Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr, felly dylech sicrhau bod eich ceisiadau’n cyrraedd Swyddfa’r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug erbyn y dyddiad hwn.  Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cau ar 31 Mawrth.

Cystadlaethau Llwyfan

1 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan ar hyn o bryd.  Byddwn yn monitro ac yn asesu’r sefyllfa ac yn darparu gwybodaeth i’n cystadleuwyr a’n darpar-gystadleuwyr wrth i’r sefyllfa ddatblygu dros yr wythnosau nesaf.

Rydym yn annog grwpiau torfol i ddilyn cyngor y Llywodraeth a’r arbenigwyr meddygol.  Rydym yn ymwybodol bod bandiau pres wedi derbyn cyngor gan y Gymdeithas Bandiau Pres yn eu hannog i ganslo pob ymarfer ar hyn o bryd, ac rydym yn credu y dylai pob côr a pharti sy’n ystyried cystadlu eleni ddilyn yr un cyngor.

Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i unigolion sy’n bwriadu neu’n ystyried cystadlu.

Côr yr Eisteddfod

Ni fydd Côr yr Eisteddfod na Chôr y Gymanfa Ganu’n cyfarfod i ymarfer ar hyn o bryd.  Mae’r penderfyniad hwn wedi’i gymryd yn dilyn cyngor gan Lywodraeth y DU a’r arbenigwyr meddygol.

Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’r côr ynglŷn â hyn ac yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda’r aelodau dros yr wythnosau nesaf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Cysylltu â Swyddfa’r Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod yn annog eu holl staff i weithio o gartref o ddydd Mawrth, 17 Mawrth ymlaen.  Ni fydd ein staff yn teithio i gyfarfodydd wyneb yn wyneb dros yr wythnosau nesaf, a byddwn yn gwneud defnydd llawn o fideo-gynadledda, gan ddefnyddio systemau fel Zoom, Skype a facetime.

Er hwylustod, cysylltwch â ni drwy e-bost yn y lle cyntaf, gan gysylltu â gwyb@eisteddfod.org.uk os nad ydych yn sicr gyda phwy y dylech fod yn cysylltu.

Bydd staff yn parhau i weithio oriau arferol yn ystod y cyfnod hwn, ac yn barod iawn i’ch helpu a’ch cynghori ar unrhyw fater sy’n ymwneud â’n gwaith.

10:11

Gan na fydd oedfaon yng Nghapel Bethel Parc-y-rhos dros gyfnod y Coronafeirws, bydd y gweinidog yn rhannu ei fyfyrdodau ar wefan y capel yn achlysurol:

http://www.bethel.btck.co.uk/NegesyGweinidog

 

23:27

CFfi Llanwenog yn cynnig help llaw i’r gymuned. Cofiwch ofyn iddynt os ydych angen.

22:06

Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Coronafeirws COVID-19 ac i amddiffyn lles pawn, NI FYDD sesiynau Cylch Ti a Fi Cledlyn tan derbynnir gyfarwyddyd pellach. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

22:03

Clwb Bowlio Llambed : coronafeirws

Yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Rheoli Clwb Bowls Llanbed heno, penderfynwyd yn unol â pholisi’r Llywodraeth, y bydd Clwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan yn cau ar unwaith ac yn parhau i fod ar gau hyd nes gewn wybodaeth pellach.

Digwyddiadau a ganslwyd: 
• Mae’r carped wedi gorchuddio’r mat bowlio dan do erbyn hyn ac ni fydd mwy o gemau dan do yn cael eu chwarae y tymor hwn.
• Diwrnod Cenedlaethol Mawreddog i’w gynnal ar ddydd Sadwrn Ebrill 4ydd
• Sesiwn rasio parlwr a noson cyflwyno dan do i’w chynnal ar ddydd Gwener 17eg Ebrill
• Gêm gyfeillgar v Clwb Bowls Dyfnant i’w chwarae ar ddydd Sadwrn 18fed o Ebrill

Bydd y Pwyllgor Rheoli yn ail-asesu’r sefyllfa cyn diwrnod agoriadol swyddogol y lawnt bowlio tu allan ar ddydd Sadwrn 18fed o Ebrill. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion i chi pan fydd gennym fwy o wybodaeth am y tymor awyr agored.

21:28

Dyma neges gan gwmni Roy Thomas Farm Supplies Ltd, Llanybydder:

Mae’r rhain yn amseroedd eithriadol a hoffem eich hysbysu ein bod yn dilyn y cyngor a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth.
Gyda hynny mewn golwg, bydd ein staff yn cadw at y protocol canlynol:

1. Ymatal rhag unrhyw gyswllt corfforol.
2. Golchi dwylo a glanweithio dwylo yn aml.
3. Ymweld â chwsmeriaid trwy apwyntiad yn unig.
Rhowch wybod i ni ar unwaith os ydych chi’n credu y gallai aelod o’n staff fod wedi dod i gysylltiad ag achos o Coronavirus (Covid-19) gan gynnwys unrhyw un sydd wedi cael ei gynghori i hunan-ynysu.

Ar hyn o bryd, mae’n ‘fusnes fel arfer’ ac edrychwn ymlaen at gynnig yr un lefel uchel o wasanaeth i chi ag yr ydych chi’n ei ddisgwyl gennym ni.
Gallwn dderbyn archebion trwy:

Ffôn
Llanybydder 01570 480437
Caerfyrddin 01267 220775
Ffôn a Neges Destun
Andrew Thomas 07831 514263
Peter Howells 07831 514009
E-bost
roy@dyfedstores.co.uk
Facebook

I’r rhai sydd yn hunan-ynysu, gallwch adael eich nwyddau mewn man diogel wedi’i drefnu ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw archebion neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch am eich dealltwriaeth yn ystod yr amser heriol hwn.
Andrew a’r staff