gwych iawn ?
Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
Gan na fydd oedfaon yng Nghapel Bethel Parc-y-rhos dros gyfnod y Coronafeirws, bydd y gweinidog yn rhannu ei fyfyrdodau ar wefan y capel yn achlysurol:
http://www.bethel.btck.co.uk/NegesyGweinidog
CFfi Llanwenog yn cynnig help llaw i’r gymuned. Cofiwch ofyn iddynt os ydych angen.
Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Coronafeirws COVID-19 ac i amddiffyn lles pawn, NI FYDD sesiynau Cylch Ti a Fi Cledlyn tan derbynnir gyfarwyddyd pellach. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Rheoli Clwb Bowls Llanbed heno, penderfynwyd yn unol â pholisi’r Llywodraeth, y bydd Clwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan yn cau ar unwaith ac yn parhau i fod ar gau hyd nes gewn wybodaeth pellach.
Digwyddiadau a ganslwyd:
• Mae’r carped wedi gorchuddio’r mat bowlio dan do erbyn hyn ac ni fydd mwy o gemau dan do yn cael eu chwarae y tymor hwn.
• Diwrnod Cenedlaethol Mawreddog i’w gynnal ar ddydd Sadwrn Ebrill 4ydd
• Sesiwn rasio parlwr a noson cyflwyno dan do i’w chynnal ar ddydd Gwener 17eg Ebrill
• Gêm gyfeillgar v Clwb Bowls Dyfnant i’w chwarae ar ddydd Sadwrn 18fed o Ebrill
Bydd y Pwyllgor Rheoli yn ail-asesu’r sefyllfa cyn diwrnod agoriadol swyddogol y lawnt bowlio tu allan ar ddydd Sadwrn 18fed o Ebrill. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion i chi pan fydd gennym fwy o wybodaeth am y tymor awyr agored.
Dyma neges gan gwmni Roy Thomas Farm Supplies Ltd, Llanybydder:
Mae’r rhain yn amseroedd eithriadol a hoffem eich hysbysu ein bod yn dilyn y cyngor a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth.
Gyda hynny mewn golwg, bydd ein staff yn cadw at y protocol canlynol:
1. Ymatal rhag unrhyw gyswllt corfforol.
2. Golchi dwylo a glanweithio dwylo yn aml.
3. Ymweld â chwsmeriaid trwy apwyntiad yn unig.
Rhowch wybod i ni ar unwaith os ydych chi’n credu y gallai aelod o’n staff fod wedi dod i gysylltiad ag achos o Coronavirus (Covid-19) gan gynnwys unrhyw un sydd wedi cael ei gynghori i hunan-ynysu.
Ar hyn o bryd, mae’n ‘fusnes fel arfer’ ac edrychwn ymlaen at gynnig yr un lefel uchel o wasanaeth i chi ag yr ydych chi’n ei ddisgwyl gennym ni.
Gallwn dderbyn archebion trwy:
Ffôn
Llanybydder 01570 480437
Caerfyrddin 01267 220775
Ffôn a Neges Destun
Andrew Thomas 07831 514263
Peter Howells 07831 514009
E-bost
roy@dyfedstores.co.uk
Facebook
I’r rhai sydd yn hunan-ynysu, gallwch adael eich nwyddau mewn man diogel wedi’i drefnu ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw archebion neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diolch am eich dealltwriaeth yn ystod yr amser heriol hwn.
Andrew a’r staff
Yn sgil y cyngor diweddaraf, NI fydd gwasanaethau arferol yn cael eu cynnal yn un o’r chwe capel am gyfnod sef Capel y Cwm, Cwmsychpant; Capel y Bryn, Cwrtnewydd; Capel Llwynrhydowen, Pontsian; Capel y Fadfa, Bwlch-y-fadfa; Capel Pantydefaid, Prengwyn a Chapel y Graig, Llandysul, medd Parch Wyn Thomas.
Dim gweithgareddau gyda’r Ffermwyr Ifanc am o leiaf 12 wythnos oherwydd y Coronafeirws, felly mae CFfI Pontsiân am gynnig ei wasanaeth i’r gymuned leol.
Ni fydd CFfI Cwmann yn cynnal eu gweithgareddau wythnosol o nawr tan ddiwedd blwyddyn y CFfI, ac mae cystadlaethau hefyd wedi eu gohirio. Byddwn ni’n eich diweddaru gyda gwybodaeth ynglŷn â dathliadau 60 mlynedd y clwb cyn gynted ag y bo modd.
Diolch.
“Dim Mart Ceffylau yn Llanybydder tan yr hysbysir ymhellach.” Dyna ddywed datganiad gan gwmni Evans Bros heddiw.
Mae Mart Ceffylau Llanybydder yn adnabyddus ar hyd a lled y wlad. Ydy hyn wedi digwydd o’r blaen?
? Datganiad gan Hannah James ar ran caffi Mark Lane, Llanbedr Pont Steffan