Mae preswylwyr cartrefi Cyngor Sir Ceredigion yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd a ffrindiau. Mae’r Cyngor yn sicrhau bod cartrefi gofal yn ailagor yn araf ac yn ddiogel drwy alluogi ymweliadau wedi’u trefnu.
O ddydd Llun 27 Gorffennaf ymlaen, bydd teuluoedd a ffrindiau yn gallu ymweld yn yr awyr agored.
Dyma’r cartrefi gofal preswyl dan sylw:
• Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, Tregaron;
• Cartref Gofal Preswyl Tregerddan, Bow Street;
• Cartref Gofal Preswyl Min Y Môr, Aberaeron;
• Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan;
• Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod, Aberteifi.
Sut i archebu ymweliad?
Gellir trefnu slotiau 30 munud o hyd o ddydd Gwener 24 Gorffennaf ymlaen drwy gysylltu â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion ar 01545 570881 neu drwy clic@ceredigion.gov.uk
Bydd uchafswm o 2 aelod o deulu o’r un aelwyd yn gallu ymweld ar un adeg. Dim ond un slot y caniateir i deulu/ffrindiau pob preswylydd ei archebu er mwyn sicrhau bod pob preswylydd yn cael cyfle i gael ymweliad. Os oes apwyntiadau ychwanegol ar gael, gall y gwasanaeth adolygu hyn.
Anogir teuluoedd a ffrindiau sy’n dymuno trefnu ymweliad i beidio â chysylltu â’r cartref yn uniongyrchol. Mae staff y cartrefi yn sicrhau bod gofal yn parhau i gael ei ddarparu’n ddiogel i’r preswylwyr ac nid ydynt yn gallu trefnu’r ymweliadau.
Er mwyn gallu cynnal ymweliadau mewn ffordd ddiogel y gellir ei rheoli, mae canllawiau clir ar waith i’w dilyn. Mae’r protocolau hyn yn cynnal lles a diogelwch y preswylwyr, y staff a’r ymwelwyr wrth ailagor i ymwelwyr.
Mae slotiau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Ni chaniateir ymweliadau heb drefnu ymlaen llaw gyda Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion.