Ffrwgwd y Goleuadau Nadolig

Anghytuno ynglyn â chodi goleuadau Nadolig ar Strydoedd Llanbed eleni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Y criw a fu’n codi’r goeden a’r goleuadau Nadolig yn 2007.

Bu llawer o drafodaeth am oleuadau Nadolig tref Llanbed ar wefannau cymdeithasol heddiw yn dilyn cyhoeddi adroddiad cyfarfod Cyngor y Dref ar wefan Clonc360 ddoe.

Cyhoeddodd y cyngor:

“Er nad yw’r siambr fasnach yn medru gosod y goleuadau Nadolig a’r Ford Gron yn methu gosod y coed Nadolig fel arfer, cytunodd y cyngor i dalu am gontractwr i osod coed Nadolig ar y siopau lle mae’r siopau yn prynu coed eu hunain. Mae’r cyngor a’r siamber yn edrych ar opsiynau ar gyfer addurno’r dref.”

Mynegwyd siom gan sawl un nad oedd y Nadolig yn mynd i ddigwydd yn lleol a bod angen goleuadau eleni yn fwy nag unrhyw adeg arall er mwyn codi’r galon.

Ond oherwydd perygl y Coronafeirws, ni welwyd y byddai’n ddiogel i wirfoddolwyr i wneud y gwaith o godi’r goleuadau a’r coed Nadolig eleni.

Dyma oedd ymateb y Cynghorydd Rob Phillips “Nid y goleuadau eu hunain yw’r risg. Cyngor y dref sy’n berchen ar y prif oleuadau ond maen nhw’n cael eu gosod gan grŵp o wirfoddolwyr cymwys nad ydyn nhw’n teimlo y gallan nhw ei wneud eleni heb roi eu hunain na’u teuluoedd mewn perygl (mae’n cynnwys pobl sy’n gweithio’n agos mewn peiriannau codi am sawl awr). Mae’r coed yn cael eu gosod gan y Ford Gron (gwirfoddolwyr) gan ddefnyddio system debyg.”

“Byddai talu contractwr i osod y goleuadau yn costio degau o filoedd o bunnoedd. Mae’r cyngor yn talu contractwr i godi’r coed os yw’r siopau eisiau iddyn nhw geisio cadw ychydig o hwyl y Nadolig yn y dref, ond ni allant ymestyn i dalu contractwr i osod y prif oleuadau.”

“Rwy’n deall bod peidio â chael y goleuadau’n siom ond ni allwn ddisgwyl i wirfoddolwyr roi eu teuluoedd a’u busnesau dan risg nad ydyn nhw’n teimlo’n gyffyrddus ag e. Rwy’n credu y dylem ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw wedi’i wneud dros y blynyddoedd a’n bod yn deall pam nad ydyn nhw’n teimlo y gallan nhw wneud hyn ar hyn o bryd.”

Mae’n bleser gweld addurniadau a goleuadau Nadolig tref Llanbed bob blwyddyn.  Tipyn o fenter i dref fach, diolch i’r gwirfoddolwyr.

Mae’n bosib ein bod yn cymryd gwaith gwirfoddolwyr y Ford Gron a’r Siambr Fasnach yn ganiataol, ond pan ddaw bygythiad fel hyn na cheir goleuadau a choed Nadolig eleni, mae’n rhyfedd faint o achwyn sy’n digwydd.  Dengys hyn felly bod gwasanaeth caredig y gwirfoddolwyr yn werthfawr iawn i ni i gyd.

Y gwaith o godi goleuadau Nadolig yn Llanbed ar fore Sul yn niwedd Hydref 2016.

Ychwanegodd un cyfrannwr ar dudalen facebook Caru Llambed “Byddai’n costio mwy na £5000 y dydd i logi 2 beiriant codi, System Rheoli Traffig, cerbydau i gludo goleuadau ac o leiaf 15 o bobl sy’n gymwys gyda safonau iechyd a diogelwch i gyflawni’r gwaith.  Mae hyn i gyd wedi’i wneud yn wirfoddol am y 30 mlynedd diwethaf diolch i’r bobl fusnes ffyddlon a Siambr Fasnach Llanbed.”

Ond roedd y gri am addurniadau a goleuadau yn Llanbed yn fawr iawn, gyda sawl cyfrannwr yn awgrymu syniadau newydd fel codi arian, apelio am wirfoddolwyr eraill a hyd yn oed gosod addurniadau amgen fel creu stori’r geni ar y sgwâr.

Nid yw’r drafodaeth ar ben.  Ond tybed beth ddaw eleni?  Mae un peth yn sicr, bydd pobl Llanbed yn gwneud eu gorau i harddu’r dref mewn rhyw ffordd neu gilydd er mwyn dathlu’r ŵyl.