Tair tafarn ar y Cwmins yn Llanbed

Byddai’r Cwmins yn le prysur tan yr 1880au ar ddiwrnodau ffair a marchnad. Tipyn gwahanol i heddiw.

gan Yvonne Davies

Wel dyma ni wedi dod at fy mhennod olaf am hen dafarnau Llanbed ym Mhapur Bro Clonc.

Canolbwyntio ar adral y Cwmins o’r dref y gwnaf y mis hwn a fyddai neb yn cysylltu’r ardal hon â thafarnau y dyddiau hyn.  Gallaf ddatgan bod y Farmers Arms gerllaw Capel Wesle a galwyd y dafarn hon yn Butchers Arms yn hanner cyntaf y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg.

Yr ail dafarn oedd y Victoria Inn gerllaw Capel Soar a wedyn y Masons Arms ochr arall i Soar.  Pam felly bod cymaint o dafarnau ar y Cwmins yn yr hen ddyddiau?  Wel, yno y cynhaliwyd y ffeiriau a’r marchnadoedd ac yno y prynwyd a gwerthwyd yr anifeiliaid, y lle yn llawn stoninau tan yr 1880au.

Ond roedd un dafarn arall hefyd gerllaw.  Wrth fynd lawr y rhiw i Barley Mow, ac ar y chwith arferai tafarn o’r enw Barley Mow fod.  Mae’n debyg mai lawr yn y rhan yma o’r Cwmins y tyfwyd y barlys ar gyfer bragu cwrw.

Cofiwch brynu rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc er mwyn dod i wybod ychydig mwy am hanesion diddorol tafarnau Llanbed.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am rai o’r llefydd yma, a lluniau, neu efallai yn gwybod am rywle arall, a fyddech yn fodlon rhannu â mi er mwyn cadw’r cofnodion hyn ar gyfer y dyfodol.

Efallai y byddai diddordeb gynnych hefyd yn nigwyddiadau Cymdeithas Hanes Llanbed.  Er na ellir cwrdd ar hyn o bryd, mae’r gymdeithas wedi cyhoeddi calendr blynyddol yn llawn o hen luniau’r ardal.  Ar y clawr eleni mae llun o Ffair Dalis 1984 gyda’r Stryd Fawr yn llawn o gymeriadau y gellir eu hadnabod.

Mae calendr Cymdeithas Hanes Llanbed ar werth am £6 yn siopau Duet, Gwilym Price a’r Smotyn Du.