Ysgol Bro Pedr yn helpu creu fisors gwyneb

gan Siwan Richards

Mae dros 300 fisor eisoes wedi eu cynhyrchu gan staff Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Mae’r fisors gwyneb yma yn darparu offer amddiffyn sydd ei angen ar gyfer gweithwyr rheng-flaen yng Ngheredigion. Cynhyrchir y fisor ar argraffwyr 3-D yr ysgolion.

Mae cynlluniau ar waith i greu 2,000 yn fwy o’r fisors hanfodol hyn.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Ysgolion: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’n staff sy’n defnyddio eu harbenigedd a’u hoffer ysgol i helpu eraill.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o’r cyfraniad y mae ein hysgolion yn ei wneud yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn, ac i’n holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi dangos y fath ewyllys da i helpu eraill.