gan
Dylan Lewis
Mae’n flwyddyn ers dechau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid19 arnynt yn y flwyddyn.
Cerdin Price sy’n rhedeg busnes Gwilym Price ei fab a’i ferched yn Llanbed gyda’r teulu yw’r cyntaf i ymddangos mewn cyfres o fideos. Mae gan Gwilym Price ei fab a’i ferched, Trefnwyr Angladdau Gapel Gorffwys yn Stryd y Bont, Llanbed a siop lestri a chelfi yn Stryd y Coleg.
Rhai blynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd llyfr am hanes y cwmni.
Y llynedd, bu’n rhaid i Rhodri, mab Cerdin ddychwelyd yn gynnar o’i daith seiclo oherwydd y pandemig.
Ac yn ystod y flwyddyn, bu farw ei dad Gwilym a chynhaliwyd angladd ar gyfer y teulu yn unig.