Heddiw yw’r diwrnod olaf y gallwch gyflwyno’ch sylwadau i Gyngor Sir Ceredigion ar y cais cynllunio sydd gerbron er mwyn addasu Canolfan Hamdden Llanbed a chreu Hwb Llesiant.
Gellir gweld cynlluniau o’r newidiadau arfaethedig i’r Ganolfan Hamdden. Y maes sy’n peri pryder i aelodau carfan Pêl-rwyd Llewod Llambed a dros 600 o bobl a lofnododd y ddeiseb, yw’r neuadd chwaraeon.
Neges Llewod Llambed ar facebook yw:
Fel y gallwch weld, o dan y cynllun hwn, mae’r neuadd chwaraeon wedi’i lleihau’n ddifrifol o ran maint. Ar ôl i’r newidiadau hyn gael eu gweithredu dyna ni – ni fydd cyrtiau chwaraeon dan do cyhoeddus, maint llawn yn ein tref mwyach! – NI FYDDWN NI BYTH YN EU CAEL YN ÔL. Cysylltwch â’r Cyngor i leisio’ch gwrthwynebiad os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
Gellir gweld y cynlluniau ar wefan Cyngor Sir Ceredigion a gadael eich sylwadau yno.