Bod yn fos ar fy hunan

Rhodri Hatcher o Lanwenog yn rhannu ei gyfrinachau ym Mhapur Bro Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Rhodri Hatcher o Lanwenog sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc.  Mae e’n blymwr hunangyflogedig a’r peth gorau am ei swydd meddai yw “Bod yn fos ar fy hunan.”

Y peth ofnadwy wnaeth e i gael row gan rywun oedd symud pick-up ei Dad cyn dysgu gyrru a baco fe nôl mewn i wal!  Mae’n parhau i gael hunllefau wrth yrru ei fan Vauxhall Vivaro oherwydd fe aeth yn grac yn ddiweddar wrth grafu ei fan yn erbyn giat yn y gwynt.

Wrth ei holi “Sut fyddet ti’n gwario £10,000 mewn awr?” atebodd drwy ddweud “Bwco trip i Las Vegas.”  Mae’n amlwg bod y golau llachar yn apelio ato oherwydd pan holwyd iddo “Beth oedd ei arferion gwael?” dywedodd ei fod yn euog o adael y golau ymlaen.

Rhaid ei edmygu am fentro i fod yn hunangyflogedig a dywed mai’r eiliad falchaf iddo’n broffesiynol oedd dechrau ei fusnes ei hunan.  Ond ni ddylem synnu yn hynny o beth oherwydd cyfaddefa mai’r dylanwadau mwyaf arno oedd “Mam, Dad, Mamgus a Tadcu.”

Ond beth am y cwestiynau eraill? Pa dri pheth yr hoffai wneud cyn ei fod yn ddeugain? Oes yna rywbeth na allai ei wneud y byddai’n hoffi ei gyflawni’n dda? Pa fath o berson sy’n mynd o dan ei groen? Y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun iddo erioed?  A beth oedd yr eiliad o’r embaras mwyaf?

Gallwch ddarganfod mwy yn rhifyn mis Mehefin Papur Bro Clonc, a beth am danysgrifio i’r papur yma?