Llongyfarchiadau calonnog i Sioned Medi Howells o New Inn am ddod yn gyntaf yn seremoni’r Prif Lenor yn Eisteddfod T yr Urdd heddiw am ysgrifennu stori am y cyfnod clo. Mae Sioned yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni.
Dywedodd y beirniad Caryl Lewis y cafwyd “cystadleuaeth chwyrn ac o safon uchel iawn” heddiw gyda 70 o ymgeiswyr.
Braf oedd gweld Sioned ar y llwyfan yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog heddiw yn talu teyrnged i’w chyn athrawes Gymraeg Elin Williams, Cwmann gyda’i theulu yn ei chefnogi o’r gynulleidfa sef dad, mam, dwy fam-gu a’i chwaer.
Yr hyn a ddaeth a gwên i wyneb Heledd Cynwal arweinydd y seremoni oedd y ffaith bod yr holl deulu wedi gallu bod yn bresennol heddiw oherwydd y glaw a gafwyd ddoe. Roedd hynny’n golygu nad oedd rhaid bod wrth y silwair heddiw!
Bydwraig dan hyfforddiant yw Sioned yn gweithio yn Ysbyty Singleton, Abertawe ar hyn o bryd. Bu i’w gwaith yno yn ysbrydoliaeth i’w gwaith buddugol heddiw.
Mae Sioned wedi ennill nifer o gystadlaethau llenyddol dros y blynyddoedd gan gynnwys gyda’r CFfI yn ogystal â chystadlaethau siarad cyhoeddus gyda’r mudiad. Mae’n cyfrannu i wefan Clonc360 hefyd.
Yn ail oedd Huw Griffiths o Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf, a daeth Ciarán Eynon o Landrillo-yn-Rhos, Conwy yn drydedd.