Mae Eisteddfod CFfI Sir Gâr heddiw. Gallwch weld y diweddaraf yma.
Enillodd Owain Davies o Glwb Llanllwni gystadleuaeth Stand Up yn yr eisteddfod wythnos ddiwethaf. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Llongyfarchiadau i Carwen George ar ddod yn 2ail yn yr unawd 28 ac iau, ac i Trystan Evans ar ddod yn 2ail yn yn yr unawd 16 ac iau y bore ’ma.
Sioned, Ifor a Hefin nawr yn diddanu. Carwen, Medwen a Deian, CFFI Dyffryn Cothi eisioes wedi cystadlu.
Mae Neuadd San Pedr bellach yn orlawn a’r gynulleidfa’n mwynhau anerchiad y llywydd Meirion Owen, yn ogystal a chystadlaethau poblogaidd yr Unawd Sioe Gerdd a’r deuawd/ dreiawd doniol.
A’r Prif lenor yw Sioned Bowen CFFI Llanllwni.
Prifardd yr Eisteddfod yw Carwen Richards CFfI Dyfryn Cothi. Llun gan Sulwen Richards.
Seremoni’r Cadeirio a Choroni wedi dechrau dan arweiniad Llywydd y Sir Mr. Elfyn Davies.
Trydydd i Cffi Llanllwni yn y Meimio i Gerddoriaeth !
Cipiwyd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i aelodau 28 neu iau gan Sulwen Richards o Ddyffryn Cothi. Y dasg oedd i ysgrifennu erthygl cylchgrawn yn cyfweld ag aelod CFfI sydd wedi datblygu busnes ei hun.
Sion Davies, Cffi Llanllwni yn cipio’r ail wobr yn y ffotograffiaeth dan 28 !
Meim cffi Llanllwni