Mis Rhagfyr
‘Clonc’ 1993 , brawddeg ar y gair HENDYGWYN o waith Y Parch. Sam Jones – “Hysbysebu Ei Newyddion Da Yw Gwir Wasanaeth Y Nadolig”
1982
Llambed – Noson Goffi ac arwerthiant ŵyn a moch bach yn Neuadd Fictoria yn codi’n agos at £3000 i Ymchwil Cancr. Rhestr o aelodau bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol ‘84.
Llanwnnen – Ocsiwn ‘Flog it’yn codi arian i gael cae chwarae.
1983
Llambed – Gwylnos yn cael ei chynnal ar sgwâr Llambed i brotestio yn erbyn y taflegrau sydd wedi symud mewn i Gomin Greenham. Gwyndaf Phillips, 19 Ffynnonbedr ar fwrdd yr ‘HMS Fyfe’ yn ynysoedd y Falklands.
Llangybi a Betws – Miss Eirwen Evans, Cottage, yn ymddeol o’i swydd fel ysgrifenyddes Ysgol Uwchradd Llambed.
1984
Calendar ‘Clonc’ 1985 ar werth – yn cynnwys hen luniau o’r ardal.
Golygyddol – beirniadaeth ar bolisi ‘dwy-ieithog’ Coleg Llambed.
Gorsgoch – Lilian Jones, Tŷ-capel, a Gillian Davies yn cerdded 20 milltir i godi arian i Ethiopia.
Llydawyr o Plabenec yn ymweld â Llanllwni, Llanybydder a Chwmann
1985
Adroddiad cyntaf gweithgarwch ‘Plant MewnAngen’ yn Llambed o dan ofal Beti a Goronwy Evans, ac yn codi £6000.
Llanybydder – Nifer o Ysgolion Sul yr ardal yn dod at ei gilydd i berfformio ‘Mwy nag Aur’er mwyn dathlu 200 mlwyddiant yr Ysgol Sul yng Nghymru.
Llambed – Agor cronfa er côf am Nyrs Dinah.
Cwmann – Pencampwr Enduro Cymru –Aled Williams, YFedw.
1986
Llangybi –Ail-agor Capel y Cilgwyn fel Canolfan yr Urdd.
1987
Llanwenog – SyM yn 40 oed.
Llanybydder – LADS yn perfformio ‘Dick Whittington’.
Llambed – Dad-orchuddio llun o Mr Aneurin Jones, cyn-brifathro.
1988
Drefach a Llanwenog – marwolaeth cymeriad – Amy Davies, Penpompren.
1989
Caset cyntaf ‘Cwlwm’ ar werth “Cwlwm o gân”.
Llanwnnen – Roy Roach yn shafio’i farf i godi arian i ‘Blant mewn angen’.
1990
Llambed – Mr John Phillips, Castellan wedi ei benodi yn Brifweithredwr Dyfed. Agoriad swyddogol llyfrgell newydd yr Ysgol gyfun.
Cwmann – Caersalem, Parcyrhos yn dathlu 150 mlynedd.
Llanwenog – Dadorchuddio a chysegru cofeb yn Ysgol Llanwenog i gyn-ddisgyblion a gollodd eu bywyd yn yr Ail Ryfel Byd.
1991
Gorsgoch – Wyn a Gwyneth Morgans, Glydwern yn gyd-fuddugwyr cystadleuaeth cadwraeth. Danny a Martha Davies, Cefnhafod yn trosglwyddo’r awenau i Eiddwen a Geraint.
Llambed – Mr J V Davies yn ennill yr MBE.
1992
Llambed – Stuart Lloyd yn ennill y gystadleuaeth am y siop orau yng Nghymru am Bysgod a Sglodion. George Gibbs ar y teledu gydag Elinor Jones.
Llanwenog – Angen £60,000 i atgyweirio to’r Eglwys.
1993
Pencarreg – Arwyddion ‘Llwybr Cyhoeddus’wedi eu codi gan Bwyllgor y Gymuned.
Llanwnnen – Y Clwb Ieuenctid wedi bod wrthi’n atgyweirio Neuadd yr Eglwys.
Cwrtnewydd – Dannie Harries, Gelli yn cael ei anrhydeddu â Medal y Gymdeithas Gwenynnwyr.
Llanwenog – Marian Davies, Maesnewydd yn ennill, Cadair C Ff I Cymru.
1994
Cystadleuaeth ‘Clonc’ – “Fy Ardal Yfory”; Kay Davies, Llanybydder yn ennill ‘Geiriadur Gomer i’r Ifanc’.
Llambed – “Cwlwm” yn 10 oed, ac yn cyflwyno £1000 i adran gerdd yr Ysgol Gyfun.
Gorsgoch – Mrs Mattie Evans a’i chwaer yn cyflwyno 50 o lyfrau emynau i Gapel Brynhafod.
Llangybi –Teyrnged i’r diweddar Barch. D. Arthur Thomas.
1995
Llanybydder – Y Brownies yn ymchwilio canolfannau ail-gylchu’r ardal er mwyn gwella’r amgylchfyd. Newyddion trist – marwolaeth y Parch Evan Griffiths. Llif-oleuadau’r Clwb Rygbi yn cael eu goleuo mewn gêm yn erbyn y Ffiwsilwyr Cymreig.
Llambed –Yr Ysgol Gyfun yn cyflwyno’r ddrama gerdd ‘Grease’.
Llanwenog – Mrs Iona Emms yn gadael ei swydd fel Prifathrawes yr Ysgol.
1996
Cwmann / Llambed – Cymanfa Ganu yn Soar ; yr emynau i gyd o waith Mr D T Evans, Llys Helen.
Llanybydder – Sioe gerdd yr ysgol – “Dial o’r diwedd”, yn seiliedig ar nofel T Llew Jones.
Llanwenog – Atgofion Mary Thomas Ffosffald am Nadolig y 1940au. Y C.Ff.I. yn dathlu 40.
Llanwnnen – Clwb Cinio i’r Pensiynwyr bob dydd Mercher yn y Grannell.
1997
Cwmann – Rhiannon Lewis wedi ei hethol yn Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru.
Llambed – Ysgol Gyfun – Sioe gerdd “Sŵn y Gân” (Sound of Music).
Llyfr W. J. Lewis ar hanes Llambed (A History of Lampeter) wedi dod o’r wasg.
Llanwenog – SyM yn cyflwyno rhoddion arbennig i Ray Davies, Crug a Mair Davies, Minyllan am eu ffyddlondeb dros 50 mlynedd.
1998
“Hysbysebion Nadolig” cyntaf ‘Clonc’.
Cwmsychbant – Helen Warrington yn cynhyrchu dolis ‘Haden’ i’w gwerthu yn siop yr Urdd. Cymanfa Ganu Brenhines CFfI Ceredigion yng Nghapel y Cwm.
Llanwnnen – Hanes mabwysiadu Elin Jones yn ddarpar ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.
Llambed – Bethan Phillips yn cyflwyno copi o’i llyfr “Rhwng Dau Fyd” i’r Ysgol Gyfun, ac yn talu teyrnged i’r diweddar Sali Davies. Cyngor y Dref yn anrhydeddu 4 am eu cyfraniad i’r gymuned:- Noel Davies, Janet Evans, Anwen Butten a Claude Guien.
1999
Nifer o hysbysebion ar gyfer digwyddiadau’r Calan, sef y Milenniwm Newydd. Hysbyseb y tu allan i Gapel Sant Tomos yn ein hatgoffa mai cofio Penblwydd Crist yn 2000 y byddwn.
Llanybydder – Sheila Davies yn derbyn gwobr am ei gwaith dros Sefydliad Prydeinig y Galon mewn Cynhadledd yng Nghaerfyrddin.
Cwrtnewydd – Plannu 70 o goed ar dir yr ysgol.
A dyma ni wedi dod i ddiwedd “O fis i fis – o’r ganrif ddiwetha”, gan obeithio fod y gyfres wedi eich hatgoffa am ambell i ddigwyddiad.!! Pwy a ŵyr, efallai y daw cyfle rhywbryd i edrych nôl ar brif straeon Clonc y mileniwm newydd.
Dyma’r uchafbwyntiau misol a gyhoeddwyd gennyf yn ddiweddar: