Mor falch bod ein ymdrechion wedi dwyn ffrwyth, a bod y nwyddau o fudd i drigolion Wcrain. Cariad ar waith. Teulu Glanrhyd, Parc-y-rhos.
Wedi’r daith gerdded a gynhaliwyd ar yr 20fed Mawrth gan aelodau a chyfeillion Bethel Parc-y-rhos, penderfynwyd cefnogi ymdrechion Nataliya Roach i ddanfon cymorth meddygol yn syth i Wcráin. Teimlwyd bod angen danfon cymorth ar unwaith i’r rhai mewn angen yn Wcráin oherwydd effaith y gwrthdaro erchyll yno.
Mae Nataliya Roach yn byw yng Nghwmann ond yn dod yn wreiddiol o Wcráin. Bu’n ddiwyd iawn dros yr wythnosau diwethaf yn mynychu digwyddiadau codi arian, prynu nwyddau meddygol a chydgysylltu â chyfeillion o Gymru ac Wcráin er mwyn trefnu danfon cymorth dyngarol yno.
Codwyd dros £1,900 oherwydd y daith gerdded a phrynwyd nwyddau meddygol angenrheidiol gan yr arian hynny. Cefnogwyd ymdrechion Nataliya gan Gapeli, Eglwysi a sefydliadau eraill hefyd.
Elma Phillips, Trysorydd Bethel a fu’n cydweithio â Nataliya ar ran Bethel a daeth rhai o swyddogion Bethel at ei gilydd un noson i roi siceri ar y bocsys gyda neges oddi wrth bobl Bethel arnynt.
Ar y 30ain Mawrth aeth Gwynfor Lewis, un o’r diaconiaid â llwyth o’r offer meddygol i Gastell Nedd ac oddi yno cludwyd yr offer ynghyd â nwyddau eraill mewn fan fawr yn uniongyrchol i Wcráin.
Dywedodd Svetlana Lilley, un o’r trefnwyr “Diolch i bawb yng Nghymru a gasglodd y gefnogaeth feddygol a rhoi’r arian i Wcráin. Bydd yn diogelu llawer o fywydau. Mae rhai o’r pethau rydyn ni wedi’u hanfon yn becynnau cymorth cyntaf. Bydd rhai pethau’n mynd i’r ysbyty i’r rhai sydd wedi’u hanafu. Bydd rhai pethau’n mynd i ffoaduriaid sy’n dal yn agos at y parth rhyfel.”
Yn ychwanegol, derbyniwyd neges o Wcráin ddoe gan Ogla Kolonijchuk “Mae pobl Khmelnytskyi, yn Wcráin a’n rhyfelwyr gogoneddus, yn mynegi diolch enfawr a gwerthfawrogiad i bobl Cymru. Diolch i’r holl sefydliadau a gymerodd ran yn y cymorth hwn, yr eglwysi a holl bobl Cymru. Diolch am y llythyrau cynnes gyda geiriau o gefnogaeth.”