Am y tro cyntaf mae pwyllgor Parêd Gŵyl Dewi Llanbed a swyddogion Papur Bro Clonc yn cydweithio gyda’r un nod o ddathlu Cymreictod yn Llanbed.
Eleni mae Papur Bro Clonc yn dathlu pen-blwydd yn 40 oed ac er mwyn nodi hynny ar ddechrau mis Mawrth trefnir cystadlaethau a digwyddiad arbennig i gyd fynd â dathliadau Gŵyl Dewi yn lleol.
Cystadlaethau i blant
Yn ystod yr wythnos hon, mae cannoedd o blant yn paratoi darluniau ar gyfer cystadlaethau.
• Oedran Cyn Ysgol, Meithrin a Derbyn – Addurno llun balŵn gyda’r rhif 40 arno (dim mwy na maint A4).
• Oedran Blynyddoedd 1 a 2 – Creu baner “Clonc yn 40” (dim mwy na maint A4).
• Oedran Blynyddoedd 3 a 4 – Creu darn graffiti – Clonc 40 (dim mwy na maint A4).
• Oedran Blynyddoedd 5 a 6 – Creu Cerdyn Pen-blwydd Hapus i Clonc yn 40 oed (Maint A4 wedi plygu fel cerdyn).
• Oedran Blynyddoedd 7 ac 8– Poster yn Hysbysebu Parêd Gŵyl Dewi Llanbed 04/03/23 (dim mwy na maint A4).
Dylid danfon ymgais unigol drwy’r post i: Cystadlaethau Pen-blwydd Clonc, Maesglas, Drefach, Llanybydder, SA40 9YB neu adael ceisiadau gan grwpiau yn Nerbynfa Cynradd Ysgol Bro Pedr erbyn Chwefror 16eg.
Bydd gwobr ar gyfer enillydd ym mhob cystadleuaeth yn rhoddedig gan Dawn’s Welsh Gifts. Arddangosir y rhai yn y categori Cymeradwyaeth Uchel yn ffenestri siopau lleol yn ystod yr wythnos cyn Dydd Gŵyl Dewi.
Diolch i Mrs Wendy Thomas, Ysgol Bro Pedr am gytuno i feirniadu’r pedair cystadleuaeth gyntaf ac i Mr Steffan Rees, Cered am feirniadu cystadleuaeth blynyddoedd 7 ac 8.
Cystadleuaeth Ffenestri Gŵyl Dewi
Bydd cystadleuaeth ffenestri Gŵyl Dewi eto eleni a chynigir gwobrau hael gan y Maer yn ogystal â tharian y Cyngor Tref i’r enillydd.
Diolch i bawb am gymryd rhan wrth addurno ffenestri gan greu naws Gŵyl Dewi gweledol hyfryd yn y dref.
Dathliad Pen-blwydd Clonc
Nos Wener, Mawrth 4ydd cynhelir noson i ddathlu pen-blwydd Papur Bro Clonc yn 40 oed yng Nghlwb Rygbi Llanbed am 7 o’r gloch.
Arweinir y noson gan Gary Slaymaker gyda digon o ganu Cymraeg cyfarwydd gyda Dafydd Pantrod a’r band. Mae tocynnau ar werth nawr gan swyddogion Clonc ac ar gael yn siop J H Roberts a’i feibion Llanbed am £6.50 yr un yn unig. Croeso cynnes i bawb.
Parêd Gŵyl Dewi
Uchafbwynt y dathiadau wedyn bydd Parêd Llanbed ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 5ed yn cychwyn o Ysgol Hŷn Bro Pedr am 11 y bore.
Arweinir yr orymdaith gan Gary Slaymaker, Y Maer a’r Faeres a’r Cyngor Tref, ein haelodau seneddol Ben Lake ac Elin Jones Llywydd Senedd Cymru. Ymhlith y gorymdeithwyr bydd Côr Cwmann, Merched y Wawr, Ysgolion lleol a theuluoedd di-ri, aelodau o’r Ganolfan Deulu, dysgwyr y cylch, aelodau o’n capeli a’n heglwysi, Yes Cymru a llawer iawn mwy.
Bydd yr orymdaith yn mynd draw tuag at gartref Hafan Deg ac yna yn ôl ar hyd y Stryd Fawr, drwy Sgwâr Harfod a lawr Stryd y Coleg.
Dewch i ymuno a chroeso i bawb. Byddwn yn gorffen yn y Coleg yn Neuadd Lloyd Thomas gyda sesiwn i’r plant gan Siani Sionc, canu gan Gôr Cwmann a the a phice bach i bawb. Diolch i Mr Gwilym Dyfri Jones y Provost a’r Brifysgol am noddi.
Diolch hefyd i Cered am noddi sesiwn y plant gyda Siani Sionc ac am argraffu’r posteri. Rydym yn ffodus iawn o’n noddwyr a hyd yn hyn mae W D Lewis a’i fab, Morgan & Davies, Evans Bros a’r Cyngor Tref wedi cynnig nawdd.