Dechrau ar waith adeiladu i drawsnewid Canolfan Hamdden Llanbed. 

Cyhoeddwyd bod y gwaith adeiladu ar Ganolfan Hamdden Llanbed yn cychwyn mis nesaf er gwaethaf gwrthwynebiad cryf yn lleol. 

gan Ifan Meredith
17C886A1-6B31-4EA9-B171Cyngor Sir Ceredigion
EAFEA062-31F7-4387-BE7B

Cynlluniau’r datblygiad- cynlluniau llawn i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion, mae datblygiad y Ganolfan Llesiant yn rhan o Strategaeth Gydol Oes a Llesiant ehangach Ceredigion.

Bydd y Ganolfan Lles yn darparu ystod eang o wasanaethau sy’n ystyried ac yn gwella agweddau corfforol, meddyliol a chymdeithasol lles unigolyn. Medd Cyngor Sir Ceredigion bydd y gwasanaethau yn cynnwys sgiliau a chyngor ynglŷn â swyddi. Maent hefyd wedi datgan bydd y Ganolfan Lles yn ei gwneud hi’n rhwyddach i breswylwyr dderbyn mwy o wybodaeth am holl wasanaethau’r cyngor.

“Bydd y buddsoddiad cyfalaf sylweddol hwn yng Nghanolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn sicrhau dyfodol y Ganolfan, ond bydd hefyd yn diwallu anghenion cynyddol plant, pobl ifanc, unigolion a theuluoedd Llanbedr Pont Steffan a’r ardal gyfagos.” – Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys creu cyfres o ystafelloedd ffitrwydd, stiwdio droelli, ystafell amlbwrpas ac yn dal i gynnwys prif neuadd chwaraeon.

‘Brwydro dros leihau maint y cyrtiau’

Mewn gwrthwynebiad, medd cynrychiolydd ar ran tîm Pêl-rwyd Llewod Llanbed byddai’r tîm yn ‘gyfyngedig iawn o’r hyn fedrant gynnig yn y dyfodol’.

Er yr herio parhaus mae pobl leol wedi ei wneud, medd y Cyngor bydd yn rhaid i’r Ganolfan Hamdden gau wrth i’r gwaith ddechrau ym mis Gorffennaf.

‘Cytundeb ar waith gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant’

Tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, bydd darpariaeth y Ganolfan yn cael ei drosglwyddo i Neuadd Chwaraeon Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o Ddydd Llun, yr 11eg o Orffennaf.

‘Yn syml, does dim capasiti gyda’r Coleg i wasanaethu pawb a dim slotiau ar gyfer clybiau newydd i sefydlu yn y dyfodol’ – Llewod Llanbed

Mae’r cyngor yn gobeithio cwblhau’r gwaith erbyn misoedd cyntaf 2023.