Ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod heddi’? Ychwanegwch luniau a fideos o’ch dydd plîs.
‘Y Byd yn ei Le’ nôl ar S4C ddiwedd Medi gyda Catrin Hâf Jones a Richard Wyn Jones yn cyflwyno, NID Guto Harri. Daw gyn ar ôl sgwrs ddifyr iawn am ddyfodol Newyddiaduraeth Gymraeg gyda Gwenfair Griffith yn cadeirio a’r panel, Geraint Evans o S4C, Delyth Isaac o’r BBC a Branwen Thomas o ITV Cymru.
Canlyniad Côr Dysgwyr gyda rhwng 13 a 40 mewn nifer:
1. Côr Dysgwyr Ceredigion
2. Côr DAW
3. Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro
4. Côr Cyd Aberystwyth
Cofio am ddau weinidog
Canlyniad Côr Merched heb fod llai nag 20 mewn nifer:
1. Aelwyd y Neuadd Fach
2. Ysgol Gerdd Geredigion
Côr Ceredigion yn agor y gystadleuaeth Côr i Ddysgwyr.
Nid yw Cymru ar werth.
Neges Cymdeithas yr Iaith i Lywodraeth Cymru wrth iddynt alw am ddeddf eiddo.
CANLYNIADAU:
Unawd Soprano: 1af – Sara Davies
Unawd Bariton: 3ydd – Kees huysmans
Nanw a Tirion yn diddanu ym Mhabell yr Undodiaid.
Kees Huysmans, Llanbed yn cystadlu ar yr Unawd Bariton / Bas 26 oed a thosodd.
Ben Lake yn cael ei gyflwyno fel Llywydd yr ŵyl.