#Clonc40 – Edrych yn ôl o fis i fis drwy rifynnau mis Ebrill Papur Bro Clonc

Ar ben-blwydd Clonc yn 40 oed, edrychwn ar beth oedd cynnwys y papur bro yn y ganrif ddiwethaf

gan Yvonne Davies

Clonc mis Ebrill 1982.

Mae rhifyn mis Ebrill bob amser yn llawn o luniau ac enwau’r rhai bu’n fuddugol yn eisteddfodau’r Urdd. Byddai cynnwys y rhain i gyd yn amhosib, a do’n i ddim am ddechrau enwi rhai rhag ofn siomi rhai eraill, felly tameidiau man hyn a man draw fydd hi eto.

1982

Alltyblacca – Mr. Dai Rees, Brynderw yn dangos ei grefft fel Cwper ar rhaglen ‘Cefn Gwlad’

Llanwnnen – Tug of War’ dros y Grannell d/o y Fish & Anchor – arian i Bwyllgor Llês y Pentref

1983

Llanllwni – Y Cyngor Bro yn plannu coed ar ochr y ffordd.

Gorsgoch – Mrs. Sadie Jones ar rhaglen “Gwynfyd” ar y radio gyda Menna Gwyn.

1984

Adroddiadau ym mhob rhifyn am weithgareddau’n codi arian i’r Eisteddfod.

Llambed – Mrs Margaret Jones, Kernonga yn ennill medal aur am ei gwasanaeth ffyddlon i’r W.R.V.S.

1985

Llambed – Cydnabod gwaith Miss Inez Rees gyda Gwasanaeth Ambiwlans Sant loan am 42 o flynyddoedd.

‘Oil-stoves’ o siop J.W. yn mynd i Sain Ffagan. Minwel Tibbott yn diolch i Bet Davies

1986

Drefach / Llanwenog – Mrs Hammond Swn-y-Nant yn 100 oed.

Yr Ysgol Uwchradd – Penodi Mr Gareth Jones yn Brifathro

1987

Y Parch. Wynzie Richards wedi ei sefydlu’n Offeiriad Eglwysi Pencarreg, St. Iago, Cwmann a Llanycrwys

1988

Llanybydder – Plant Ysgol Sul Aberduar yn derbyn rhodd o’r Beibl Cymraeg Newydd i ddathlu 400 mlwyddiant Beibl William Morgan.

Cyhoeddi ‘Casgliad o ganeuon Islwyn Ffowc Elis’ gan Wasg y Lolfa

1989

Llawer o weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn codi arian i Apêl Victor Morris a Dalis Evans.

Lansio ‘Clwb Clonc’ er mwyn osgoi argyfwng ariannol.

Llanwnnen – Sefydliad y Merched yn dathlu’r 40ain

1990

Cellan – Defaid Penshungrug yn magu’n dda; 1 yn dod a 5 oen, ac un arall 4 – i gyd yn iach ac yn heini.

Llanllwni – C.Ff.I. yn ennill Cystadleuaeth y Ddrama drwy Gymru, ac un o’i haelodau, Marion Rowlands, – yr actores orau.

1991

“Cwlwm” ar daith i Czechoslovakia

Llanwenog – Pwyllgor Cofeb y cyn-ddisgyblion yn cyflwyno peiriant fideo i’r ysgol.

1992

Pobol yn ymddeol – Del James fel Cofrestrydd ar ôl 28 mlynedd, Eifion Davies fel Dirprwy Brifathro Ysgol y Dolau, Derek Evans o Banc y Midland, Twynog Davies o ADAS yn Nhrawsgoed.

Llanwenog – Marian Thomas, Pantffynnon, yn Frenhines CFfI Ceredigion.

1993

Dymchwel Tŵr y Dderi er mwyn codi melinau gwynt (Jốc Ffwl Ebrill gan fod Clonc ar werth Ebrill 1af

Llanybydder – Banc y Nat West yn derbyn Gwobr Gwasanaeth Aruchel fel y gangen orau yng Nghymru am wasanaeth i’w cwsmeriaiad.

1994

Llambed – Mrs Jan Harries yn ennill y wobr laf am ddarn o ryddiaeth i ddysgwyr o dan Efrydiau allanol Aberystwyth.

1995

Silian – Fferm Coedparc y ennill gwobr am y silwair gorau allan o 7,000 o samplau o Dde Orllewin Prydain, ac yna’n 5ed drwy Brydain allan o 20,000.

Llambed – ‘Chester’, ci John Davies (siop Daniel Davies) yn ennill yn ei ddosbarth yn Crufts.

1996

Cwrtnewydd – Swyddfa’r Post yn cau.

1997

Teyrngedau i ddau gymwynaswr – y diweddar Handel Evans, a D.T. Lloyd Llanybydder.

Islwyn Jones, Gwynfa yn derbyn Tystysgrif y Comisiwn Coedwigaeth am wasanaeth 44 o flynyddoedd.

Llambed – Anrhegu Rosa Evans, Drefach House, am ei gwasanaeth fel Organyddes Brondeifi am 67 o flynyddoedd.

1998

Croesawu ‘Strab a Haden’ – cymeriadau swyddogol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ’99.

Cwmann – Lyndon Gregson yn ennill cap pel-droed dan 15 Cymru.

Llambed – Y Soropomists yn cyflwyno tystysgrif ‘Gwraig y Gymuned’ i Mrs Ray Davies, Crug,

Llanybydder – Steve Doyle yn derbyn yr OBE ym Mhalas Buckingham

1999

Cwrtnewydd – Lyn ac Eric Rees yn ennill medalau am redeg ras 40 milltir.

Llambed – Cynllun i Gymreigio busnesau’r dre.

Teyrnged i’r diweddar Mrs Muriel Lloyd.

Dyma uchafbwyntiau mis Chwefror a gyhoeddais yn wreiddiol ac yna uchafbwyntiau mis Mawrth rhyw wythnos yn ôl.  Fe ddaw uchafbwyntiau mis Mai cyn bo hir.