Dyma gyfle i ni gyd i hel atgofion am EIRA 1982, 40 o flynyddoedd yn union yn ôl.
Ewch ati i dwrio yn yr albym lluniau neu dyddiaduron i weld a oes gyda chi atgofion i’w rannu.
Sylwadau o ddyddiadur personol John Warmington, a oedd yn gweithio i’r bwrdd trydan.
Iau 7 Ionawr 1982
Eira wedi’i addo, a disgynnodd yn sylweddol yn gynnar yn y nosweth.
Gwener 8 Ionawr 1982
Eira trwm wedi disgyn dros nos a bu’n bwrw eira am ran fwya’r dydd. Methu â theithio i Lanfihangel. Aeth John Jones (Dothan) a finne o amgylch yr henoed a’r bobol ar eu pen eu hunen i weld a oedd pawb yn iawn.
Sadwrn 9 Ionawr 1982
Disgynnodd fwy o eira dros nos, gyda lluwchfeydd trwm yn Heol y Bryn a’r dre. Aeth Goronwy (Phillips) a finne am dro a galw yn y Lock & Key.
Sul 10 Ionawr 1982
Galwodd John Lewis amdana’i i gerdded i Gilblaidd gyda fe, Ieuan (Ffinant) Jones ac Ian Donaldson. Roedd hi’n wâc oer a blinedig iawn. Cerdded wedyn i Abergrannell i gwblhau ein gwaith.
Llun 11 Ionawr 1982
Riportes i i’r swyddfeydd ar Stryd y Bont ben bore. Yr hewlydd wedi cau am Dregaron. Llwyddodd Skip (Gwyn Thomas) a finne fynd i Fwlchllan. Cafodd John Lewis a Ieuan (Ffinant) wâc anodd i Landdewi Brefi. Y dymheredd yn disgyn gyda’r nos.
Mawrth 12 Ionawr 1982
Diwrnod oer iawn ond yn heulog. Cerdded i Dregaron o Stags Head. Lluwchfeydd uchel o glawdd i glawdd ar bwys Deri-Garon a Glan Brennig. Yn cerdded gyda fi oedd Brian Thomas, John Lewis a Ieuan (Ffinant) Jones.
Mercher 13 Ionawr 1982
Llwyddon ni i gyrradd Llanfihangel drwy Alltrodyn a Gorrig. Dim cymaint o eira yn y depot. Hofrennydd yn glanio yn Llanfi. Cerdded lan i’r Lock & Key gyda Goronwy, Eric, Arthur a Tony. Gwelson ni eog wedi marw ar yr iâ ar yr afon Teifi. Terry Griffiths wedi curo Steve Davis.
Iau 14 Ionawr 1982
Llawer o’r hewlydd yn dal ar gau. Hofrennydd yn glanio eto yn Llanfi i gasglu Lyn Jones. Cymerodd 12 munud o Eglwyswrw i Lanfi ar uchder o 500 troedfedd a 120 milltir yr awr. Y tywydd dal yn oer – dan y rhewbwynt.
Gwener 15 Ionawr 1982
Yn dechre dadleth. Motor pwmp y pwll nofio wedi llosgi mas.
Sadwrn 16 Ionawr 1982
Wedi clirio rhywfaint o’r eira gyda George Harper, Ormond House a John Jones, Dothan. Ces fy ngalw mas i Gribyn a Phumsaint. Dal yn dadleth ond llawer o luwchfeydd o hyd mas yn y wlad. Yr Alban 9, Lloegr 9. Aeth Goronowy, Tony, Eric a finne i Dafarn y Ram.
Sul 17 Ionawr 1982
Yn dal i ddadleth. Yn fwynach. Rihyrsal y Mil o Leisiau yn yr Afan Lido wedi’i ohirio tan 31 Ionawr. Es i’r cwrdd Cymraeg yn y bore.
Mawrth 19 Ionawr 1982
Mae wedi troi’n dipyn yn fwynach. John Toshack wedi’i ddewis yn Bersonoliaeth Chwaraeon Cymru. Elizabeth wedi mynd deuddydd heb smoco, a finne wedi mynd heb am ddiwrnod. Heb fod yn ffôl hyd yn hyn!
Mercher 20 Ionawr 1982
Y tywydd yn dal i fod yn fwyn.
Iau 21 Ionawr 1982
Yn dal i fod yn fwyn yn ystod y dydd.
Gwener 22 Ionawr 1982
Yn fwyn eto heddi. Eira yn dal i barhau ar hyd y cloddiau.
Contractwyr Jones Bros, Henllan yn cario crates llaeth o Highmead Dairies i Aberystwyth. Y tractor fan hyn ar bwys Cribyn ar y ffordd i Aberystwyth. Roedd rhaid torri bwlche cae a theithio yn y caeau lle roedd y rhewlydd gyda lluwche o glawdd i glawdd.
Llun: Marian Morgan
Ar ben 4 diwrnod mynd lawr i Landysul i hol ambell neges. Dim ond tractors oedd yno!!
Llun: Marian Morgan
Sian, Marian ac Edward, Maesnewydd wedi mynd gyda Eirwyn yn y tractor o Gwmsychpant i Gribyn i weld mam-gu a tad-cu Llysmynach [cyfuniad o fynd drwy caeau ac ar yr hewl].
Corni, Gwarnant a Huw, Tanrhos yn clirio’r hewl am Clyncoch a Cathal.
Llun: Marian Morgan
Lluniau o Gwmann gan Bryn ac Helena Gregson.
Dafydd Lewis wedi dringo i ben lluwch eira yn Stryd y Bont.
Stryd y Coleg, Llanbed.
Drefach
Llun – Eifion Davies
Bedwyr ar ei feic yn Afallon.
Llun – Eifion Davies