Dyma adroddiad gan Ann Bowen Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Parêd Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan.
Cawsom orymdaith fendigedig bore ddoe y 5ed o Fawrth drwy Lambed, roedd yr haul yn disgleirio a’r tyrfaoedd wedi dod ynghyd yn eu cannoedd i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant.
Arweiniwyd yr orymdaith gan Faer a Maeres y dref Selwyn a Judith Walters a’n harweinyddion gwadd sef Gary Slaymaker y comediwr a Ben Lake ein haelod seneddol yn San Steffan. Diolch i Brifswdddogion Ysgol Bro Pedr am gario’r baneri i ni.
Cyn dechrau’r Parêd cawsom gwmni Eddie Ladd a’i chriw a bu Côr Cwmann yn canu’r emyn Llanbedr yn hyfryd.
Cawsom gwmni Cyngor tref Llambed, Y Ganolfan Deulu, aelodau Côr Cwmann, Dysgwyr y cylch, Ysgolion Y Dderi, Bro Pedr, Carreg Hirfaen, Bro Cledlyn, Carreg Hirfaen a’r plant wedi gwisgo yn eu gwisgoedd Cymreig lliwgar. Braf oedd cael teuluoedd di-ri yn cefnogi. Hefyd roedd Merched y Wawr o Lambed, Felinfach, Llanbydder a Sefydliad y Merched o’r cylch, Cymdeithas Hanes, Cerddwyr y fro, aelodau capeli, Yes Cymru a llawer iawn mwy.
Diolch i Rob Phillips am drefnu’r stiwardiaid a chaewyd y ffyrdd yn llwyddiannus gan gerdded heibio Cartref Hafan Deg, ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Coleg ac i mewn i’r Brifysgol a lawr i Neuadd Lloyd Thomas i ddathlu ymhellach.
Yno roedd Siani Sionc yn disgwyl am gwmni’r plant a phaned, bara brith a phice bach i bawb. Roedd yn wych gweld y plant yn joio mewn sesiwn fyrlymus a bywiog o ganu, symud a dawnsio. Cawsom air i ddilyn gan Ben Lake a Gary Slaymaker wedi arwain gan Ann Bowen Morgan, Cadeirydd y Parêd.
Cyflwynodd Dylan Lewis wobrau 5 categori ar gyfer dathliad Penblwydd 40 Clonc a diolch i Dawn a Scott o Dawn’s Emporium am y gwobrau hyfryd o lechen. Ewch i weld yr enillwyr a llu mwy a gymeradwyd yn ffenestri Crown Stores gan ddiolch i Eifion ac Alun Williams am eu caniatad.
Cyflwynwyd gwobrau Ffenestri Gŵyl Dewi Llambed gan y Maer a’r Faeres. Enillwyd y wobr gyntaf o darian y Cyngor a gwobrau y Maer gan Cadi a Grace, yr ail wobr gan Filfeddygon Steffan a’r trydydd gan y Sosban fach.
Diolchwyd i’n noddwyr gan Ann sef Y Brifysgol, Cered (a noddodd Siani SIonc), W.D.Lewis a’i fab, Clwb Rotari, Morgan & Davies, Evans Bros, ac i Miss Heini Ysgol Y Dderi, Gwen Gwarffynnon, Eryl Jones, Eifion Williams ac Ann am y gwobrau raffl, ac i Manon Richards ein hysgrifennydd a’n trysorydd Iona Warmington a’r pwyllgor.
Gorffenwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau. Diwrnod llwyddiannus iawn!! Diolch i bawb.
Gwyliwch recordiad o’r parêd ynghyd ag uchafbwyntiau’r dathliadau yn y fideo isod.