#Clonc40 – Straeon mis Gorffennaf Papur Bro Clonc yn ystod y ganrif ddiwethaf

Edrych ar hen rifynnau Clonc o fis i fis fel cofnod gwerthfawr o hanes lleol ar achlysur ei ben-plwydd yn 40

gan Yvonne Davies

Clonc Gorffennaf 1986.

Ar ben-blwydd Papur Bro Clonc yn 40 oed, mae’n brofiad diddorol iawn i edrych yn ôl drwy hen rifynnau.  Dyma felly gyflwyno blas o straeon mis Gorffennaf y ganrif ddiwethaf.

1982

Llanbed – Aelodau’r Urdd yn croesawu côr o Toronto.

Llangybi – Capel Ebeneser yn derbyn 8 o aelodau ifainc.

Cwmann – Cystadleuaeth Cneifio yng Ngelliddewi-uchaf. Tommy Price a Cerdin Price yn mynd â’r gwobrau.

Llythyr di-enw o Lanwnnen! “Neges dros 8 o drigolion:- Mae yn ddrwg calon gennyf na fedraf brynu copi arall o ‘Clonc’ – nid oes dim newydd ynddo, ac mae ei bris yn gwbl afresymol. Mae yma ormod o bapurau bro yn barod.”

1983

Hanes a lluniau Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1984

Cwmann – Gwyn Williams, Wyngarth yn dod o hyd i gopi o ‘Western Mail’ Tachwedd 1895 wrth atgyweirio’r hen ficerdy. Roedd 31 o Aelodau Seneddol Cymreig yn pwyso ar Mr Asquith am fesur o hunan-lywodraeth i Gymru!

1984

Llanbed – Dathlu Canmlwyddiant Siarter y Maer : Ffair Dalis – lluniau’r dathlu.

Plant ysgol Ffynnonbedr ar y teledu – Rhaglen ‘Cofio Idwal’.

Llanllwni – Mr Enoch Thomas, Arnant – diacon yng Nghapel Nonni ers 40 mlynedd.

1985

Cinio ‘Clonc’ yng Nghegin Sion Cwilt.

Llanwnnen – Gwasanaeth arbennig yng Nghapel y Groes i lansio llyfr Frank Evans sy’n sôn am ei brofiadau fel carcharor rhyfel yn Japan.

Llanybydder – Elwyn Davies, Fronlas yn derbyn y BEM am ei wasanaeth i amaethyddiaeth.

1986

Llanwnnen – Caradog Jones yn derbyn y BEM.

Llanbed – Sefydliad y Merched yn dathlu 70 mlynedd.

Rosemary Davies yn cyflwyno Baner (o’i gwaith ei hun) i gangen Merched y Wawr.

1987

Llanllwni – Rhys Llewelyn yn cymeryd rhan yn ‘Hannibal a’r Heslop’ gyda’r BBC.

Llanbed – Aelodau’r Ford Gron yn beicio o Land’s End i John o’Groats.

Llanybydder – Aelodau’r Merched y Wawr yn creu baner i’r gangen.

Cwmann – Yr Athro Cyril Williams, Cae’r Nant, yn datgan fod angen pafin yng Nghwmann.

1988

Llanbed – Dyn o Gei Newydd yn gobeithio cychwyn sinema unwaith eto yn y Neuadd Fictoria – ar ôl 25 mlynedd. (Ond beth ddigwyddodd?!)

Ffilmio ‘We are Seven’ yn Llanddewi-brefi. Nifer o’r ardal hon yn cymeryd rhan fel ‘extras’.

M.Y.W. – Eryl Jones, Llanbed yn Drysorydd Cenedlaethol Merched y Wawr.

1989

Chwiorydd 12 o gapeli Annibynwyr Cylch Llanbed yn cynnal noson ‘Mefus a Hufen’ yn Neuadd Cwmann, er mwyn codi arian i Canolbarth America.

Cwmann – Côr Cwmann a’r Cylch yn 25 Mlwydd oed.

Cellan – Sally Price, gynt o Waunlluest yn derbyn y BEM.

Llanwnnen – Y tîm criced yn cael chwarae ar gae Maesllan.

1990

Yr Ysgol Gyfun – yn cynnal arbrawf; ‘Wythnos Werdd’. Y disgyblion yn holi’r gymdogaeth am eu barn.

Llanybydder – Sefydliad y Merched yn dathlu 50.

Llanwenog – Sian James, aelod o C.Ff.I. Llanwenog yn Frenhines Rali Ceredigion, a Gareth Morgan yn Ffermwr Ifanc y Flwyddyn.

1991

Cwmann – Côr Cwmann ar daith i Toronto.

Llanwenog – C.Ff.I. yn ennill Cwpan Gwynne Davies am y 10fed tro yn olynnol, am ennill y nifer fwyaf o bwyntiau yn ystod y flwyddyn.

1992

Cwmann – C.Ff.I. yn gwthio ‘Diamwnt’ enfawr dros 180 cilomedrau i godi arian i ysbytai Bronglais, Glangwili a Singleton.

Llanbed – Dewiswyd Anwen Butten yn aelod o dîm bowlio merched Cymru
am y 5ed gwaith, a Jeff Edwards yn aelod o dîm y dynion am y 6ed tro.

1993

Blwyddyn codi arian at Apêl Syr Geraint Evans i Ysbyty’r Galon yn y Waun, Caerdydd.

Llanbed – Aelodau ‘Amnest Rhyngwladol’ yn plannu blodau ‘Nad fi’n angof’ (Forget-me-not) o gwmpas y dref.

Yr Ysgol Gyfun – Cyfle i’r disgyblion ddysgu Siapanaeg.

Llanwenog – C.Ff.I. yn ennill y Rali yn Nhalybont – y tro cyntaf ers 1967, a Cwpan Gwynne am y 12fed tro.

1994

Llanbed – Meinir, merch Edwin a Beryl Jones, yn Faer tref Llandrindod

Huw Evans yn rhoi adroddiad o’i brofiadau yn Glastonbury.

Clonc yn derbyn rhoddion ariannol o sawl cyfeiriad.

1995

50 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Trefnwyd nifer o weithgareddau yn y dref ac aml i bentref er mwyn cofio.

Llanbed – Dadorchuddio cofeb i Idwal Jones yn Rhoslwyn.

1996

Llangybi – Ysgol y Dderi yn ennill Tlws Celf Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd, Bro Maelor.

Llanbed – Côr yr Urdd yn cyflwyno rhodd i Twynog Davies am ei waith fel arweinydd y Côr am 15 mlynedd.

Llanwnnen – Allen Watts, Pantyronnen wedi rhedeg Marathon Llundain, a
chodi arian i gronfa ‘Plant mewn angen’.

1997

Llanbed – Y Bnr. John Phillips, Castellan, yn Gyfarwyddwr newydd Undeb Cymru a’r Byd.

Cwmsychbant – Sion, Sirian a Sulwyn Cathal yn ennill cwpanau yn Rali’r Ffermwyr Ifainc.

Aelodau’r Urdd Llanbed, Coedmor, Y Dderi, Cwrtnewydd a Llanybydder yn mwynhau yn Jambori yr Urdd yng Nghaerdydd i ddathlu 75 mlynedd y mudiad.

1998

Llanbed – Mrs Phyllis Smith yn derbyn y BEM am ei gwaith i’r Lleng Brydeinig am dros 60 mlynedd.

Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion yn Llanbed o dan Lywyddiaeth Mrs Nesta Harries.

Copïau llun ‘Soar y Mynydd’ o waith Ogwyn Davies, a gomisiynwyd gan Rhiannon Lewis, i’w gwerthu i godi arian i Eisteddfod yr Urdd ‘99.

Cwmann – Lyndon Gregson ar fin dechrau ei brentisiaeth gyda Chlwb Pel-droed Abertawe.

Cwmsychbant – Eleri Jones, Blaenhirbant uchaf – Brenhines Rali’r Ffermwyr Ifainc ym Mhontsian.

1999

Eisteddfod yr Urdd – Lluniau ac adroddiadau ar lwyddiant ysgubol yr Eisteddfod.

Odwyn Davies, Olmarch, yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes.

Gorsgoch – Apêl y Gors yn codi arian i uned ddyddiol Chemotherapi Ysbyty Glangwili.

Cyflwyno rhoddion i – Johnny Williams, Bayliau am ei wasanaeth i’r Ysgol Gyfun fel Llywodraethwr am 30 o flynyddoedd, – ac i John Jones, Swyddog Gorsaf y Frigâd Dân am ei wasanaeth gwerthfawr yntau am 40 o flynyddoedd.

Dyma’r uchafbwyntiau a gyhoeddwyd gennyf hyd yma:

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

Fe ddaw uchafbwyntiau mis Medi cyn bo hir.

RhannuDiolchCwyno