Fis Gorffennaf y llynedd aeth tractor gorau Dai Williams o Bentre Bach ar goll am wythnos. Buodd ar wyliau ym Melfast, Gogledd Iwerddon yn cystadlu mewn rhaglen yn rhan o gyfres newydd “The Fast and the Farmer-ish” ar BBC Three.
Dyma un o sioeau blaenllaw newydd BBC Three. Gwelir dau dîm o dri ffermwr ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ym mhob pennod yn rhoi eu hoff dractorau trwy heriau amrywiol i benderfynu pwy yw’r cerbyd gorau.
Cyflwynir y gyfres gan ffermwr adnabyddus a phersonoliaeth cyfryngau cymdeithasol, Tom Pemberton. Tro Cymru yw hi ym mhennod 3 gyda thîm ‘The West Wales Cowboys’ a ‘The Chipmunks’ yn llosgi rwber a brwydro am le yn y rownd gynderfynol.
Gyrrwr tractor Dai Dolau oedd Morgan George a oedd yn rhan o dîm y Chipmunks. Mae Morgan yn gyn ddisgybl o Ysgol Bro Pedr a oedd yn helpu Dai yn Nolaugwyrddion ar y pryd. Mae e nawr yn gweithio ar fferm odro yng Nghaerlŷr.
Gwyliwch sut daeth hen dractor David Brown 1694 gyriant pedair olwyn 35 oed o Bentre Bach ymlaen yn erbyn y tractorau mawr modern nos Fercher am ddeg o’r gloch ar BBC Three neu o flaen llaw ar BBC iplayer.
Hoffai Dai ychwanegu nad yw’r tractor ar werth!