Mor ddiogel â’r banc, neu beidio?

Traddodiad bancio Llanbed yn mynd yn ôl mor bell ag oes y Porthmyn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Banc-yr-Eidion-Du

https://www.localdroveroads.co.uk/

9BBE21E3-80C3-4937-AD36

Adeilad Banc yr Eidion Du ar y Stryd Fawr.

D86EBFF2-9349-45DA-9185

Arwydd Hen Dŷ’r Banc heddiw.

A80FD14F-8141-4211-A870

Bwrdd ar Hen Dŷ’r Banc heddiw yn nodi’r hanes.

A60A512B-1376-4961-8EB0-F9FD9EAE6C1F

Adeilad Banc Lloyds ar y Stryd Fawr cyn iddo gau eleni.

Cyhoeddwyd yr hanesyn hwn yng ngholofn Siprys rhifyn Medi Papur Bro Clonc.

Banc Lloyds yw’r banc diweddaraf i ymadael â thref Llanbed. Caeodd ei ddrysau yn y Stryd Fawr ym mis Mai eleni. Cau bencydd cefn gwlad yw’r patrwm y dyddiau hyn yn anffodus, a phatrwm sy’n rhaid ei dderbyn oherwydd datblygiadau mewn bancio digidol a chost gynyddol cynnal a chadw hen adeiladau a chyflogi staff. Gyda diflaniad Banc Lloyds yn Llanbed, gwelwyd diwedd traddodiad bancio yn y dref sy’n mynd yn ôl mor bell ag oes y Porthmyn.

Ym 1799 sefydlodd David Jones y Porthmon o Lanymddyfri Fanc yr Eidion Du. Yr oedd wedi ennill ymddiriedaeth y porthmyn a’r amaethwyr wrth ddod ag arian mawr yn ôl i Lanymddyfri. Honnwyd ei fod yn gwybod am fwy o ffyrdd i wneud arian nag oedd o dafarnau yn Llanymddyfri. Ac roedd llawer o rheiny! Erbyn 1810 roedd ganddo asiantaeth yn Llundain mewn cydweithrediad â Banc Lloyds yn masnachu fel Jones, Lloyd and Company.

Yr oedd ei fenter ariannol yn mynd o nerth i nerth a thra bu trafferthion gydag arian Banc Lloegr oherwydd y rhyfel yn erbyn Ffrainc, ennill hygrededd oedd papurau arian Banc yr Eidion Du. Erbyn ei farwolaeth ym 1840 roedd wedi sefydlu canghennau o Fanc yr Eidion Du yn Llanbed a Llandeilo.

Er ei gyfoeth mawr, bu bywyd yn anodd i’w deulu. Bu farw ei ddau fab yn ifanc ac ysgwyddwyd y cyfrifoldeb am y bencydd gan ei dri ŵyr. Rheolwyd cangen Llanbed gan William Jones ac adeiladodd plasty Glandenys ym 1855.  Ym 1877, yn 75 oed, priododd William Jones ag Anne Isabel Fenton o Gaerhirfryn a oedd ond yn 23 oed. Ym 1884 etholwyd ef fel Maer cyntaf Llanbed. William Jones oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Amaethyddol Llanbed hefyd ac erbyn 1887 roedd Sioe Amaethyddol Llanbed yn ddigwyddiad blynyddol.

Gwnaed defnydd helaeth o’r gyfrol Saesneg The Lovers Grave a gyhoeddwyd gan Bethan Phillips yn 2007 er mwyn dod o hyd i’r hanes diddorol hwn. Wedi marwolaeth Bethan yn 2019 trosglwyddwyd yr hawlfraint i’w theulu, felly mae Cloncyn yn ddiolchgar iawn i John Phillips am yr hawl i ddefnyddio’r cyfan ac am yr anogaeth i gyhoeddi am draddodiad bancio Llanbed.

Bu farw William Jones ym 1897 ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Llanfair Clydogau. Roedd dyfodol Banc yr Eidion Du bellach yn nwylo ei nai Gerwyn Jones gan nad oedd plant gan William a’i wraig.

Doedd dim llawer o ddiddordeb gan Gerwyn Jones yn y banc. Roedd yn well ganddo ef fywyd anturus Llundain a theithio’r byd a bu farw yn y ddinas honno ym 1903.

Doedd Gerwyn ddim yn briod a gadawyd ei ystâd i’w chwaer Mary Eleanor, gwraig Herbert Davies-Evans, Highmead. Rheolwyd Banc yr Eidion Du felly gan y teulu hwnnw a’r meibion Delme a Herbert nad oedd â phrofiad o redeg banc. Yn anochel, cymerwyd yr awenau gan Fanc Lloyds Cyf ym 1909 a daeth Banc yr Eidion Du i ben fel banc annibynnol.

Er bod Banc yr Eidion Du gwreiddiol mewn adeilad gwahanol yn Stryd Fawr, Llanbed, roedd presenoldeb Banc Lloyds yn y dref am dros ganrif yn arwydd o gadernid ariannol a ffydd yr hen borthmyn yn eu mentergarwch eu hunain. Tybed a yw’r cylch yn troi a bod angen y ffydd honno ynddon ni ein hunain erbyn hyn i sefydlu ein gweithdrefnau ariannol o’r newydd? Rhywbeth o werth i gnoi cil drosto o bosib.

Cloncyn