Diwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin!

Dilynwch blog byw Clonc360 am y diweddaraf o’r maes yn Llanymddyfri!

gan Ifan Meredith

Croeso i’r Eisteddfod!

Mae criw Clonc360 yn barod ar y maes i ddod â’r diweddadaf i chi o’r maes.
Golygu dod draw i’r maes? – beth am rannu eich profiad ar y blog byw yma?

22:29

Stondin bwyd Cegin Gwenog yn gwerthu bwyd blasus. 

22:28

Stondin Cŵyr Cain ym Mhabell Sir Gâr yfory eto. Ewch draw i’w cefnogi.

21:32

Diwedd ar ddiwrnod llawn o gystadlu gyda fideo o uchafbwyntiau’r dydd! Welwn ni chi o’r maes bore fory!

18:40

Canlyniad ola’r dydd- Côr bl. 6 ac iau:

1. Ysgol Llabddarog

2. Ysgol Bodedern

3. Ysgol y Dderi

17:58

Ysgol Y Dderi yn y côr

17:53

https://youtu.be/j0fvs2R_fb4

Côr Ysgol y Dderi wedi cystadlu yng nghystadleuaeth y Côr bl. 6 ac iau a dyma gyfweliad ecsgliwsif gyda dwy o aelodau’r côr. 

16:55


Côr Ysgol y Dderi.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi gan Castell Howell a’r arwyddo wedi ei noddi gan Ashmole & Co.

16:29

Ysgol y Dderi yn barod i gystadlu yng nghystadleuaeth ola’r dydd yn y Pafiliwn Gwyrdd- Côr bl. 6 ac iau.

15:56

Llongyfarchiadau i Rhys Iolo Evans, Ysgol y Dderwen am ennill cystadleuaeth Llefaru blwyddyn 2 ac iau – ŵyr Emyr Richards, Goedwig, Llanbed.

15:18

“Cyfansoddiad a chyfansoddwr ifanc, hyderus, modern ac o safon uchel iawn sy’n llawn haeddu’r Fedal Gyfansoddi eleni.”

Gwydion Rhys yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd eleni. Daw Gwydion o Rachub yn Nyffryn Ogwen ac yn 20 mlwydd oed ac yn cysyadlu dan y ffugenw ‘Tannau Perfedd’. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda mae ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ble mae’n astudio Cyfansoddi gydag Alison Kay.

Daeth naw cyfansoddiad i law y beirniaid, Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton.