Gŵr o Lanybydder yn derbyn Anrhydedd o fri!

Anthony Davies, sy’n gweithio gyda chwmni Dunbia, yn derbyn gwobr fel ‘master butcher’ yn Llundain.

gan Gwyneth Davies
Anthony Davies yn derbyn gwobr yn Llundain.

Braf oedd clywed am lwyddiant Anthony, Maes y barcud, yn ystod yr wythnos ddiwethaf a sylweddoli mai ond rhyw 70 o gigyddion ym Mhrydain sydd wedi derbyn gwobr fel hon. Cafodd Anthony Davies MB.Inst.M ei wobrwyo yng Ngwobrau Blynyddol ‘The Insititute of Meat (Iom)’  a gynhaliwyd yn ‘Butchers Hall’, Llundain, ar 23ain Chwefror. Cyflwynwyd y wobr i Anthony gan Bill Jermey, Cadeirydd y Sefydliad Cig. Mae Anthony, sydd bellach yn un o bum Prif Gigydd yn Dunbia, wedi gweithio ar y safle yn Llanybydder ers ei ddyddiau Ysgol, pan oedd yn eiddo i Oriel Jones. Treuliodd gyfnod o ddwy flynedd yn Llundain, gan astudio yng Ngholeg Smithfield a gweithio ym Marchnad enwog Smithfield hefyd, cyn dychwelyd i Lanybydder. Dechreuodd Anthony fel fforman ond erbyn hyn, fe yw Rheolwr ‘Operations’ y safle.

Pan ofynnwyd iddo beth mae’r wobr yn ei olygu, dywedodd Anthony:

“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd fawr gan fy mod wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant cig ar hyd fy oes. Mae gweithio’n agos gyda ffermwyr, cwsmeriaid a gwahanol gyflenwyr o bob rhan o’r byd dros y blynyddoedd wedi rhoi pleser mawr i mi. Ond, wrth gwrs, ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni hyn heb gefnogaeth fy nheulu, cydweithwyr  a ffrindiau ar draws y diwydiant.” Llongyfarchiadau calonnog felly i chi Anthony gan obeithio eich bod wedi mwynhau’r dathlu!