‘On’d oedden nhw’n ddyddiau da?’

Heather Jones o Lanybydder sy’n rhoi atgofion y Fferyllfa i ni’r mis hwn ym Mhapur Bro Clonc

gan Gwyneth Davies
Parti ymddeoliad y Fferyllydd Richard Merriman yng ngwesty’r Cliff, Gwbert.

Parti ymddeoliad y Fferyllydd Richard Merriman yng ngwesty’r Cliff, Gwbert.

Fe ddechreuais i weithio yn y Fferyllfa ar ôl i Kathy orffen a bues yno am bron pymtheg mlynedd. Fe orffennodd Mattie a finne ar yr un diwrnod.

Yn y Fferyllfa o’n i’n gweithio ar y dechrau ond yna dechreuais fynd â thabledi o gwmpas i gleifion. Roedd fan arbennig gyda ni ar gyfer y gwaith ac ro’n i’n dosbarthu yn ardal Llanybydder, Cwrtnewydd, Pencader, Llandysul a Llansawel. Wrth wneud y gwaith hwn, ces lawer o brofiadau gwahanol.

Un diwrnod, fe glywon ni yn y fferyllfa bod un o’r cwsmeriaid wedi marw a gofynnwyd i fi gasglu’r ‘oxygen bottle’ o’i gartre. Ro’n i’n gwisgo cot goch ar y pryd a doedd dim amser gyda fi i fynd adre i newid. Ces i fy nghodi lan gyda’r meddylfryd bod yn rhaid gwisgo lliw tywyll wrth fynd i gydymdeimlo ac i angladd er mwyn dangos parch at yr ymadawedig. Roedd atgofion melys gen i am y dyn bach yma gan y bydde fe’n aml yn rhoi ‘sweets’ i fi i fwyta ‘on route’. Pan gyrhaeddais i’r tŷ y diwrnod hwnnw, ro’n i’n teimlo’n lletchwith dros ben yn y got goch. Y peth cyntaf dw i’n cofio yw’r wraig yn holi a oeddwn am weld ei gŵr. Dyna oedd yn digwydd yr adeg honno wrth gwrs ac felly dyna a wnes. Cedwid y corff yn y parlwr neu’r gegin orau gan amlaf bryd hynny a phobl a oedd yn galw i gydymdeimlo yn cael mynd mewn i’w weld er mwyn talu’r deyrnged olaf.

Un fenyw oedd yn derbyn tabledi gen i yng Nghwrtnewydd oedd Nanna Garth ac fe fydden i’n mynd yno unwaith y mis. Roedd Nanna yn berson arbennig ac fe fydda i bob amser yn cofio am ei charedigrwydd. Byddai cacen yn fy nisgwyl bob tro ac fe fydde hi’n rhoi honno wedyn ar y rayburn i dwymo tra fy mod i’n mynd drwy’r ardd gefn â thabledi i Danny Gelly a oedd yn byw drws nesa. Roedd Danny’n ŵr caredig iawn hefyd achos dw i’n cofio cael pot o fêl ganddo gyda’i enw ar y label. Yna, pan o’n i’n mynd nôl i dŷ Nanna a dechrau bwyta’r gacen, fe fydde hi’n dweud wrtho i ‘ watchwch eich dannedd!’ Roedd cacs hyfryd gan Nanna ac fe fydden i’n cael amrywiaeth – o fins peis i ‘Queen cakes’. Yn yr Haf wedyn, fe fydden i’n cael tomatos gyda hi o’r ‘Greenhouse’ yn y cefn ac ro’n nhw’n arogli’n hyfryd. Atgofion melys iawn!

Ro’n i’n mynd hefyd at ddyn a oedd wedi bod yn ‘Squadron leader’ gyda’r RAF ac roedd wedi cael strôc druan. Pan fydde fe’n ffonio’r ‘chemist’ i archebu ei dabledi, fe fydde fe bob amser yn holi amdana i. Dw i’n credu mai’r rheswm am hynny oedd oherwydd bod gen i lot o amynedd i wrando arno ac ar adegau, roedd y stori’n gallu bod yn faith! Ro’n i’n mynd â thabledi iddo bob Dydd Gwener ac fe fydde fe’n dweud ‘ You’re good with timing and I always know when to start boiling the kettle!’ Ro’n i’n trio bod ar amser bob tro gan fod amser yn bwysig iawn iddyn nhw. Ar y diwrnod arbennig hwn, fe gnocies ar y drws gan ddweud ‘helo’ yn uchel. Doedd dim ateb ac felly es i i weld a oedd e tu fas ond dim sôn o gwbl. Nôl â fi felly i’r tŷ a’i ffindio wedi marw druan ar gadair yn y gegin. Fe es drws nesa wedyn i ffonio’r heddlu a’r ambiwlans a dwi’n cofio cael llwythi o gwestiynau. Mewn ychydig o amser, daeth y gwasanaethau brys ac yna’r tîm fforensig. Roedd y cymdogion i gyd wedi dod mas ac yn methu’n lân â deall beth oedd wedi digwydd. Diwrnod trist iawn oedd hwnnw!

Dro arall, es i â thabledi i hen ŵr a’r diwrnod arbennig yma ro’n i’n methu’n lân cael ateb gydag e. Roedd drws y cefn ar agor a’r ci yn cyfarth. Felly ro’n i’n gwybod ei fod e yno ac felly mewn i’r ‘hall’ â fi. Oherwydd bod ei iechyd yn fregus, roedd e’n cysgu yn y parlwr a dyna le ffindies i fe – tu ôl i’r drws!  Rhoddais obennydd o dan ei ben gan wneud yn siŵr ei fod yn gorwedd ar ei ochr.  Yna codais y cwilt o’r gwely a’i roi drosto i’w gadw’n gynnes. Wedi cwympo oedd e druan ac roedd e’n gallu siarad gyda fi. Roedd hynny’n rhyw galondid. Fe ffoniais yr ambiwlans yn syth ac yna dychwelyd i’r Fferyllfa ar ôl sicrhau ei fod yn gysurus. Des nôl wedyn yn hwyrach ar ôl i mi orffen yn y gwaith i weld sut oedd e. O mowredd – fe fuodd yn disgwyl am oriau cyn i’r ambiwlans gyrraedd. Roedd e’n ok druan a dim ond shifflad oedd e wedi cael. Roedd e’n ddiolchgar iawn i fi am ei helpu ac fe ges ‘bouquet’ hyfryd o flodau ganddo a charden gyda’r geiriau,‘ Thank you, you’ve saved my life.’

Er mwyn clywed mwy o hanes y Fferyllfa gan Heather, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc.