On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Cyfle i ddarllen rhagor o hanesion hen Ysgol Llanybydder.

gan Gwyneth Davies
Ysgol-Llanybydder

(O’r chwith) Y rhes gefn – Emyr Jenkins, Alun Price, James Williams, Idwal Evans a Robert Farmer. Y rhes ganol – Mary Williams (athrawes), Ronald Jones, Gilbert Evans, Terwyn Williams, Emlyn Dudley, David Thomas, Brian Walker ac Irvon Thomas (prifathro). Y rhes flaen – Marlene Evans, Ann Davies, Mattie Jones, Ann Lloyd Jones, Sheila Morgan, Margaret Evans, Wendy Jones, Christine Maloney a Gaynor Thomas.

Beryl Lewin a Mattie James sy’n rhannu eu hatgofion â ni.

Y 1930au/40au

Beryl Lewin

Pan ddechreuais i’r ysgol yn Llanybydder, ro’n i’n byw yn Gwrdi Bach a buon ni yno tan fy mod tua 9 oed. Felly, bryd hynny, rhaid oedd cerdded i’r ysgol, ond yn ddiweddarach symudon ni i Glynhaf, ac wedyn dim ond croesi’r ffordd oedd gen i. Mr A.J. Thomas oedd y pennaeth a ’dw i’n cofio’n arbennig am yr athrawes Eluned Evans gan mai hi oedd yn fy nysgu i adrodd. Mr Llywelyn oedd yr athro arall. Roedd ‘mental arithmetic’ yn bwysig iawn bryd hynny ac fe fydden ni’n cael sesiwn dda ar ddiwedd y dydd. Y cyntaf i ateb wedyn oedd y cyntaf i adael y dosbarth. Mae gen i atgofion am adeg y rhyfel a chael dysgu sut oedd defnyddio’r ‘gas mask’. Roedd y ‘gas mask’, a oedd mewn bocs â strap, yn cael ei gario ar yr ysgwydd. Mae gen i frith gof amdanon ni’n gwisgo’r ‘gas mask’ ac yn rhedeg lawr i waelod cae’r ysgol, ond mae gormod o flynyddoedd wedi mynd i gofio pam yr o’n ni’n gwneud hynny.

Miss Evans oedd yn ein dysgu i adrodd ar gyfer Eisteddfod Capeli ac Eisteddfod yr Urdd. Roedd aelodau Urdd Llanybydder, yn gwisgo ‘blazer’ werdd a ‘beret’ ar y pen. Mae gen i gof amdana i’n mynd ar y llwyfan i adrodd yn Eisteddfod yr Urdd ac enillais y wobr gyntaf. Es nôl i eistedd wedyn ar y ffwrwm yng nghefn y llwyfan, a phan ofynnodd yr arweinydd pwy oedd yn gwybod y gân nesaf a phwy felly oedd yn mynd i gystadlu, wel ro’n i’n barod i wneud gan fy mod yn ei gwybod yn iawn. Adrodd ro’n i fod i wneud a ’do’n i ddim wedi cael fy mharatoi ar gyfer y canu. Roedd mam druan yn chwysu’n stecs ac ar bigau’r drain, felly, pan godais i lan. Druan â mam! Un peth arall ’dw i’n cofio yw bod yr Ianks yn gwahodd plant yr ysgol i Blas y Dolau yn aml adeg y rhyfel. Cawson ni wahoddiad yno i de parti rhywdro ac fe gawson ni fwyd hyfryd, a ’dw i’n cofio’n cael ‘chewing gum’ ganddyn nhw.

Y 1950au/60au

Mattie James

Mr A.J.Thomas, Dolau View oedd y pennaeth cyntaf gyda Mr Irvon Thomas yn ei ddilyn. Miss Eluned Evans, Mrs Shale a Miss Gweni Jones o Orslas, a oedd yn lletya gyda Tommy Barbwr, oedd yr athrawon. Mrs Farmer oedd y prif gogydd ac roedd Lizzi Jacob a Mrs Price yn gweithio gyda hi. Yn Gwenog View, Llanybydder o’n i’n byw pan ddechreuais i’r ysgol. Symudon ni wedyn i Teifi View, Alltyblaca pan o’n i’n 9 oed a Dat oedd yn mynd â fi i’r ysgol. Bu Mrs Williams, Tegfryn, Alltyblaca yn dysgu gyda ni am ychydig ac ro’n i’n cael lifft gyda hi weithiau.

Un atgof sydd gen i yw mynd lan i Lwynfedw pan o’n ni’n mynd ar ‘ramble’ er mwyn cael gweld nyth y wennol mewn sgubor. Roedd Margaret, a oedd yn byw yno ar y pryd, yn ddisgybl yn ysgol Llanybydder ac ro’n i’n eistedd ar ei phwys yn y dosbarth. Aethon ni i fferm Llygad Enwyn hefyd i weld sut oedd y llaeth yn cael ei ddosbarthu i’r cwsmeriaid, ac i Glaneinon, ond ’dw i ddim yn cofio beth welon ni yno. Beth bynnag, un wythnos, ’doedd dim byd wedi ei drefnu ac felly fe gynigais i i’r dosbarth ddod lawr i weld ein cŵn ni. Roedd cŵn o bob maint gyda ni ac roedd fy rhieni yn mynd â nhw i gystadlu o sioe i sioe. Enillodd fy nhad ‘best of breed’ gyda’r Welsh terriors yn Crufts dair blynedd o’r bron. Ro’n i’n dangos cŵn hefyd pan o’n i’n blentyn ac mae gen i sawl cwpan.

Un diwrnod, fe sylwes fod un o fy nghyd-ddisgyblion yn bwyta gwm cnoi yn y dosbarth, a’r peth nesa, roedd Mr Irvon Thomas y prifathro yn atgoffa pawb beth allai ddigwydd pe bai nhw’n cael eu dal yn gwneud hynny. Wel, wel, cafodd y plentyn yma gymaint o ofn, fe dynnodd y gwm allan o’i geg a’i roi lawr cefn ei siwmper. Sylwodd Mr Thomas ddim ar hyn, diolch i’r drefn, neu mae’n siŵr y bydde fe wedi cael cosb lem! Peth arall ’dw i’n cofio am Irvon Thomas yw cael rownderi gydag e’ yn y cae. Ar Ddydd Gŵyl Dewi wedyn, fe fydde Mr Thomas yn ein holi ni i ddod mewn â chenhinen. Roedd fy nghenhinen i yn dipyn o sioe bob amser gan fod mam yn plygu’r dail mewn ffordd arbennig. Un fi felly oedd yn cael ei dewis yn flynyddol i’w harddangos yn y dosbarth. Ro’n i’n browd iawn.

I ddysgu mwy am hen Ysgol Llanybydder, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc.