Penodiadau Bro Pedr – Cyfweliad arbennig â’r pennaeth presennol a’r pennaeth newydd

Cyhoeddi Pennaeth, Dirprwy-Bennath a Phennaeth Cynorthwyol newydd Ysgol Bro Pedr.

gan Ifan Meredith

Yn dilyn y cyhoeddiad am ymadawiad y Pennaeth presennol, Mrs Jane Wyn sydd wedi bod yn y swydd ers Ionawr 2016, mae Pennaeth newydd wedi ei phenodi i’r rôl sef y Dirprwy-Bennaeth presennol, Mrs Carys Morgan.

 

Yn sgil penodiad y Dirprwy-Bennaeth presennol i swydd y Pennaeth ar secondiad 2 flynedd, bu’n rhaid penodi Dirprwy-Bennaeth newydd a phenodwyd Miss Lowri Gregson a Mrs Bethan Payne i lenwi’r swydd hon am ddwy flynedd.

“yn fraint ac yn anrhydedd mawr i gael fy mhenodi yn Ddirprwy ym Mro Pedr – fel cyn-ddisgybl i’r ysgol, mae’r ysgol yn meddwl cymaint i mi a dwi eisiau sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i gael y profiadau a’r mwynhad cefais innau fel disgybl.”- Mrs Lowri Gregson

“cefnogi Pennaeth a staff ein hysgol i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig addysg, profiadau a chefnogaeth o ansawdd uchel, sy’n hybu twf academaidd, corfforol, ac emosiynol ar draws pob grŵp blwyddyn.” – Mrs Bethan Payne

“pob disgybl yn bwysig, dwi’n angerddol bod yr ysgol yn un cynhwysol ble mae cyfleoedd diri o fewn a thu hwnt i’r ystafelloedd dosbarth.”- Mrs Lowri Gregson

“Mae clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol yn hynod werthfawr wrth ddarparu gweithgareddau i ddisgyblion yn ystod cyfnodau anstrwythuredig a thu allan i oriau ysgol ac mae’n wych gweld nifer o staff yn cymryd yr awenau wrth greu a chyflwyno’r clybiau hyn. Y gobaith yw y gallwn ddatblygu hyn ymhellach fel bod ein disgyblion yn cael mynediad at gyfoeth o gyfleoedd sy’n hygyrch, yn ddifyr ac yn amrywiol.” – Mrs Bethan Payne

Yn ychwanegol, penodwyd Bennaeth Cynorthwyol yn ddiweddar er mwyn llenwi swydd Mrs Llinos Jones a Mr Heulyn Roderick a adawodd eu swyddi cyn y Nadolig. Penodwyd Nia Lloyd-Evans yn Bennaeth Cynorthwyol gyda gofal dros 3-11 yn yr ysgol yn ogystal â’r Pennaeth Cynorthwyol dros y medrau rhwng 3-19 oed.

“Gyda phrofiad o weithio yn Ysgol Bro Teifi yn flaenorol, rwyf yn gyfarwydd â ‘setup’ 3-19. Mi fyddem yn gobeithio parhau i gydweithio ar draws y campws er mwyn tynnu staff a disgyblion i gynorthwyo ein gilydd. Mae’r elfen o 3-19 yn bwysig iawn i mi. Mae’r Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 a 11 yn statudol i roi cyfleoedd i ddisgyblion gael ystod o brofiadau. Mae Cymreictod, Urdd a pherfformio yn bwysig iawn ac mae angen parhau i gefnogi a gweld enw Ysgol Bro Pedr mewn cyngherddau ac eisteddfodau.” – Mrs Nia Lloyd Evans