Un o raglenni gwnes i fwynhau ei ffilmio fwya erioed

Mari Lövgreen, cyflwynydd Cefn Gwlad wedi dotio ar gymeriad unigryw Kees Huysmans

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
8939EB76-F99A-4391-AF16

Kees Huysmans a’i wraig Elonwy yn mynd am dro yn nhref Llanbed neithiwr cyn darllediad o’r rhaglen.

Neithiwr, darlledwyd rhaglen Cefn Gwlad am Kees Huysmans, Llanbed ar S4C, ond cyn hynny ar X cyhoeddodd y cyflwynydd Mari Lövgreen y canlynol:

“Mae o’n gymaint o Lej.  Nes i fwynhau bob munud yn ei gwmni fo.  Mae o’n gymeriad mor unigryw, mae ei stori fo mor unigryw, fysa jyst dathlu ei bersonoliaeth o’n ddigon o raglen ond ma be mae o wedi ei gyflawni efo’r waffles ar ben hynna yn gwneud o’n fwy diddorol.”

“Dw i’n mynd i ddod allan a dweud mai hon yn bendant yn un o raglenni gwnes i fwynhau ei ffilmio fwya erioed, ac mae hynna’n ddweud mawr!”

Roedd yn raglen ddiddorol iawn gan ddilyn ei hanes o’r dyddiau cynnar hynny pan ddaeth ef a’i ddiweddar wraig Ans o’r Iseldiroedd ac ymgartrefu ym mhenref Tregroes a sefydlu cwmni waffles.

Yn ei golofn “Cymeriadau Bro” Papur Bro Clonc ym mis Ebrill 2005, ysgrifennodd Twynog Davies,

“Gŵr hynod hawddgar a hoffus yw Kees Huysmans gyda’i chwerthiniad a’i wên gellweirus a’r bersonoliaeth gynnes.  Mae’n gwmnïwr da ac wrth ei fodd yn canu.”

A gwelwyd hynny yn y rhaglen deledu neithiwr.  Roedd Côr Meibion Cwmann a’r cylch yn perfformio yn Niwrnod Agored Becws Tanygroes a gwelwyd golygfa o noson ymarfer Côr Pamlai yng Nghlwb Rygbi Llanbed, a Kees yng nghanol yr hwyl a’r tynnu coes yno.  Kees oedd y prif ysgogydd tu ôl sefydlu’r côr rhai blynyddoedd yn ôl.

Cofiwch wylio Cefn Gwlad er mwyn cwrdd â’r cymeriadau unigryw yn ei fywyd a dysgu mwy am ei fusnes llewyrchus.  Ond yn fwy na hynny, er mwyn gwerthfawrogi rhaglen gonest a theimladwy am ddyn diymhongar ar un llaw a rhaglen hynod ddifyrrus ar y llaw arall.