Croeso cynnes iawn i Ruth ac Alec sydd newydd gymeryd Siop y Pentre drosodd ym mhentre Llanfair Clydogau. Mae hyn yn newyddion o lawenydd mawr i bobl yr ardal yn dilyn ymadawiad y cyn berchnogion.
Mae Alec yn dod o ardal Y Fenni yn Sir Fynwy ac mae Ruth yn dod o Benarth, tu fas i Gaerdydd. Maent wedi symud i Lanfair Clydogau i geisio byw bywyd hunan-gynhaliol. Mae’r hwyaid wedi cyrraedd yn barod, dyna’r cam cyntaf!
Nid ydynt wedi rhedeg siop o’r blaen ond maent yn dweud eu bod yn dysgu yn gyflym fod llawer iawn i’w wneud. Mae’r gan y siop ddewis go dda yn barod o fwydydd organig a.y.y.b, ac maent yn awyddus iawn i ehangu ar hyn.
Mae stesion ail-lanw di-blastig ar dop eu rhestr, yn ogystal â mwy o gynnyrch lleol, a chyn bo hir bwydydd o’u tir nhw eu hunain.
Bydd 2022 yn flwyddyn brysur iddynt gan eu bod yn disgwyl babi ym mis Ebrill. Mae merch fach Alec, Evelyn, yn helpu yn y siop yn barod ac yn awyddus iawn i wella ei mathemateg a dysgu trin arian.
Pob lwc iddynt yn eu menter newydd a chofiwch gefnogi Siop y Pentref.