Aron Dafydd yn ennill Gwobr Stocmon Gorau CFfI Cymru

Aelod gweithgar CFfI Bro’r Dderi yn fuddugol yng Ngregynog neithiwr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_0564

Llongyfarchiadau i Aron Dafydd, Gwarffynnon ar ennill Gwobr Stocmon Gorau yng Ngwobrau Amaeth cyntaf CFfI Cymru a gynhaliwyd yng Ngregynog neithiwr.

Mae Aron yn aelod gweithgar o Glwb Bro’r Dderi, Ceredigion.  Enillwyr y gwobrau eraill oedd:

– Gwobr Rheolaeth Glaswelltir Gorau – Morgan Tudor, CFfI Maldwyn.

– Gwobr Arallgyfeiriad Gorau – Catrin & Gwion, CFfI Meirionnydd.

– Gwobr Pencampwr Gwledig CFfI Cymru – Megan Powell, CFfI Brycheiniog.

Fferm odro yw Gwarffynnon gyda 140 o wartheg holstein.  Mae’r gwartheg yn godro tua 9,000 litr o laeth y flwyddyn gyda’r gwarthgeg yn mynd allan i bori am chwe mis y flwyddyn.

Yn 2020, penderfynwyd gwerthu llaeth yn uniongyrchol i gwsmeriaid drwy ddefnyddio peiriannau gwerthu llaeth yn ogystal â gwerthu llaeth i wneuthurwyr hufen iâ lleol.

Fel rhan o’r gystadleuaeth roedd rhaid i Aron greu adroddiad yn cofnodi beth mae e’n gwneud ar y fferm yn Silian a disgrifio’r fferm a’r system.  Roedd rhaid iddo lanw ffurflen yn trafod yr heriau a chyfleoedd byd amaeth yn y dyfodol.  Yn ogystal â hynny gofynnwyd i Aron greu fideo 10 munud yn cyflwyno fe fel stocmon yn mynd o gwmpas y fferm a’r stoc.  Bu’r beirniaid ar ymweliad â Gwarffynnon hefyd er mwyn gweld y stocmon ifanc wrth ei waith.

Cyhoeddodd CFfI Cymru ar facebook,

“Diolch i CCF, Germinal, Menter a Busnes & Kepak am noddi’r pedwar gwobr ac i’r holl feirniaid! Hoffem ddiolch hefyd i Alun TT am gynnal y noson a DJ Dan am gadw’r alawon i fynd drwy’r nos! Allwn ni ddim aros i weld beth fydd yn dod ar gyfer Gwobrau Amaeth 2025.”

Ychwanegodd Aron,

“Rodd hi’n fraint ac anrhydedd derbyn y wobr o stocmon gorau a licien i ddiolch i CFfI Cymru am gynnal y gystadleuaeth hon.”