Gwledd i’r llygaid oedd Taith Tractorau Llanybydder a Rhydcymerau eleni

Codi arian da tuag at Ysgol Llanybydder, Henoed Llanybydder ac Uned Myrddin Caerfyrddin

Victoria Davies
gan Victoria Davies
2DD5CA6E-4924-4058-90ADGary Jones
23609826-C65B-4B33-A2B0Gary Jones
EE86F065-A28A-4FB5-9B0BGary Jones
4846282F-2410-4100-98BBGary Jones
9BD7E2EF-E125-49B3-B70DGary Jones
7A083668-4EA6-44FA-B6B1Gary Jones
7F784B7F-7E68-482C-BCAAGary Jones
F8445904-563C-448F-B692Gary Jones
DD951A69-19F9-41E4-B4EFGary Jones

Am y trydedd blwyddyn, daeth 33 o dractorau o pob oedran i ymuno yn y daith o amgylch Llanybydder a Rhydcymerau.  Daeth llu o bobl mas i wylio’r olygfa liwgar a llachar yn teithio o Lanybydder i Rydcymerau. Yna, roedd criw o wylwyr yn aros amdanyn nhw. Diolch iddyn nhw am y cyfraniad a gasglwyd i’r achos.

Aeth y tractorau draw i Esgairdawe a nôl dros Fynydd Pencarreg, cyn disgyn nôl lawr i’r pentref ac yna i Glwb Rygbi Llanybydder.  Yn arwain y tractorau oedd Santa (Dafydd Morgans) gyda Patricia Baker a bois “Mayes Tyres” yn sicrhau diogelwch ar y ffyrdd. Gwnaethon nhw job arbennig o gadw’r teithwyr yn ddiogel.  Yn ôl yn y Clwb oedd siawns i gael pryd o fwyd gan Matt o’r “Smoke Shack”. Bu Matt yn paratoi rôls porc wedi eu mygu a’u thynnu…blasus iawn, hefyd!

Roedd yr ocsiwn wedi codi tipyn o arian dan ofal Gareth Morgan, Castell Newydd Emlyn. Yr eitemau i gyd wedi cael eu rhoi yn cynwys hamper o fwydydd Cymreig o Fwydydd Castell Howell, “torch” LED o TL Thomas & Son, Crossroads, Tedi yn gwisgo siwmper tractor wedi gweu gan Vicky Pistyllgwyn, Cacennau Ffrwyth Moethus wedi eu harddurno gan Patricia Baker, “Waterproof Leggings” o Denzil Pugh, Potel Vodka cudd mewn pêl-droed, 2 ffon gerdded a thei Clwb Rugby Llanybydder yn rhoddedig gan Ieuan Davies, Elvet House, Goleuadau trailer wrth Grant Rees, Bocs o gwrw a hetiau beanie o Mayes Tyres, Sach o fwyd gan Roy Thomas Farm Supplies, Het LED o Patterson, Pontsian, Drwm o Olew o Gwili Jones, Tegan Meddal Ceirw gyda Siocledau wrth Lisa Whiting, Blaengorlech a chlustog a tractor wrth Pam, Pant.  Hefyd, roedd amryw o boteli chwisci, rym a phort yn rhoddedig gan Wyn Thomas Brynllo Fawr, Bleddyn Jones Trydanwr, Nigel Jones, Rhydcymerau, Messers Organ, Penrhiwdilfa, Dyfrig Evans Pantycoubal, a Dafydd Morgans. Diolch enfawr i bawb a gyfranodd i’r ocsiwn.

Yn olaf, roedd y raffl fawr a noddwyd gan Emyr a Sian Jones, Blaenblodau.  Y gwobrau o £50 mewn arian parod yn rhoddedig gan Richard Evans Ailgylchwr Metal, Talsarn, HC Davies Tractors, Pentrebach a Penlon Tractors, Cribyn.  £20 mewn arian parod yn rhoddedig gan Lyn Jones, Wakefield a £10 o John Jones, Saer Maen, Yr Hen Banc. Rydym ni fel pwyllgor yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth.

Beirniad y tractor wedi arddurno’n orau oedd Iwan Mayes, o Mayes Tyres, Llanybydder ac yr enillydd oedd Tomos Morgans o Blaengorlech. Roedd y darian unigryw yn rhoddedig gan y dylunwr a chrëwr, Gary Jones, gynt o Pwll Gymbyd, Rhydcymerau. 

Gyda arian dal yn dod mewn, rydyn ni wedi croesi’r £2,000.  Yr elw yn mynd i helpu Ysgol Llanybydder, Tripiau Haf Henoed Llanybydder ac Uned Myrddin Caerfyrddin sydd yn cefnogi plant gyda Awtism ac Anghenion Arbennig.  Rydyn ni’n bwriadi dosbarthu’r arian i’r achosion cyn gynted a phosib yn y flwyddyn newydd.  Gobeithio gweld pawb ‘to blwyddyn nesa!

Dweud eich dweud