Llwyddodd 97% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC yng Nghymru dderbyn graddau A* i E, wrth i 30% ennill graddau A* – A.
Mae ffigurau cymharol rhwng rhai cymedrol Ceredigion a Chymru i’w gweld isod.
Gradd A* – A
Ceredigion: 30%
Cymru: 30%
Gradd A* – C
Ceredigion: 79%
Gradd A* – E
Ceredigion: 99%
Cymru: 97%
Mae’r canlyniadau yma yn is na llynedd wrth i’r sector Addysg ddychwelyd i farcio gwelwyd cyn Cofid. Gwelwyd gostyngiad graddau A*-A o 7.5 pwynt canran o’i gymharu â graddau 2023 a gostyngiad bach o 0.1 pwynt canran o raddau A*-E.
“Dymunwn y gorau i bob un o’r dysgwyr ar gyfer eu dyfodol”
Medd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion:
““Llongyfarchiadau i holl ddysgwyr Ceredigion ar ganlyniadau Safon Uwch, BTEC ac UG ardderchog eleni eto. Rydym yn hynod falch o’u hymroddiad, mae eu gwaith caled, eu huchelgais a’u dyflbarhad wedi arwain at ganlyniadau rhagorol a haeddiannol iawn.”
Aiff ymlaen i ddatgan ei diolch i’r staff am eu hymrwymiad ac i deuluoedd/ gwarchodwyr “am eu cefnogaeth”.
Eleni, gwelwyd cwymp yn y nifer o fyfyrwyr Lefel-A sydd wedi ymgeisio am leoedd Prifysgol gydag ond 41.9% o’r rheiny sydd wedi sefyll arholiadau Lefel-A eleni yn ymgeisio i brifysgolion, i lawr o 44.1% yn 2022. Gwelwyd hefyd gwymp yn nifer o ymgeiswyr prifysgol tramor lle mae cwymp o 16% o geisiadau am VISA Astudio. Ychydig wythnosau cyn y canlyniadau heddiw, cofnododd PA News Agency bod yna le ar gyfer Clirio mewn 18 o’r 24 Prifysgol Grŵp Russel gyda hyd at 30,000 o gyrsiau ar gael.
Gyda chanlyniadau uchel i’w gweld yng Ngheredigion, mae nifer yn honni nad dyma fydd y stori os fydd cynlluniau’r Cyngor Sir i ganoli 6ed Ceredigion i un ganolfan yn cael eu gweithredu ond amser a ddengys am ddyfodol system addysg 6ed dosbarth Ceredigion.
Mi fydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ymhen wythnos, ar yr 22ain o Awst.