Gan Rhiannon Ifans a Rhys Bebb Jones
Mae pawb sy’n teithio drwy Lanbed adeg y Nadolig yn rhyfeddu at y goleuadau hardd a’r coed Nadolig sy’n addurno’r dref. Yn yr hen ddyddiau, ’roedd pobl dda Llanbed a’r cylch yr un mor brysur yn addurno’r eglwysi yn nhymor y Nadolig – gyda chelyn o wahanol fathau, plaen, pigog a deuliw; a gydag eiddew, pren bocs, a mwsog. Byddai ambell un yn torri llythrennau ar gyfer rhoi adnodau ar y waliau, eraill yn pwytho torchau i wneud yr eglwys yn dlws a chroesawus ar gyfer gwasanaethau’r Nadolig.
Un o’u hoff wasanaethau oedd ‘Y Plygain’. Cynhelid plygain llewyrchus iawn yn Eglwys St Ioan, Pentre-bach, am 5.00 o’r gloch y bore, a’r lle wastad dan ei sang. Rhan bwysig o’r gwasanaeth yn yr hen amser oedd y bregeth, ar destun addas fel ‘Tywysog Tangnefedd’ neu ‘Mab a roddwyd’, ac i gloi byddai Cymun. Mae hynny’n wahanol i’n harfer ni heddiw, lle mai dim ond gwasanaeth byr iawn sydd yn agor y plygain, a’r prif sylw yn cael ei roi i ganu carolau.
Heddiw mae gwastad swper i ddilyn y plygain. Ond nid felly oedd pethau ganrif a mwy yn ôl gan mai ar doriad gwawr y cynhelid y plygain. Er hynny, mae stori hyfryd iawn yn y Carmarthen Journal (1908) sy’n dweud bod te parti ardderchog iawn wedi ei gynnal i’r plant a fu’n canu yn y plygain. Mrs Rowland, 14 Station Terrace, a gynhaliodd y parti, a hi fu’n dysgu’r carolau i’r plant. Diolchwyd iddi gan Miss Davies, Aberdauddwr, ac eiliwyd y diolch gan Miss Het Jones, Pentre Cottage. Efallai fod disgynyddion iddynt yn dal yn yr ardal.
Weithiau ’roedd newydd da yn dod yn sgil y plygain, fel digwyddodd yn 1897:
‘yr oeddym newydd ddyfod o’r plygain yn y capel, a dyna floedd fod y Principal [John Owen] wedi ei benodi yn Esgob Tyddewi’.
Dyna dro da yn wir i bobl Llanbed, oedd â pharch mawr i Brifathro’r Coleg cyntaf erioed i’w sefydlu yng Nghymru. Dyma’r sefydliad hynaf ym Mhrydain i ddyfarnu graddau, ar ôl prifysgolion hynafol Rhydychen a Chaergrawnt a rhai o brifysgolion yr Alban.
Wrth gwrs, bu’n ddyddiau llwm ar y plygain am gyfnod, ond erbyn hyn mae gwasanaeth ‘Y Plygain’ wedi ei ailsefydlu yn Llanbed ers 2007, yng Nghapel y Brifysgol. Bu nifer yn canu yno dros y blynyddoedd, a dyma lun o Barti Plygain Llanbed 2024. Cynhaliwyd ‘Y Plygain’ yno eleni nos Lun 2 Rhagfyr, gyda lluniaeth ysgafn wedyn yn Yr Hedyn Mwstard, Llanbed. Diolch yn fawr i bawb, yn gantorion ac yn gynulleidfa am gefnogi’r plygain eto eleni ac i’r Hedyn Mwstard am luniaeth blasus. Diolch yn fawr am gefnogaeth ariannol Cyngor Tref Llanbed eleni a dros y blynyddoedd, sy’n sicrhau y gellir parhau i gynnal y plygain yn flynyddol yn ei ffurf bresennol yn Llanbed.
Cewch wybod ychwaneg am hanes ‘Y Plygain’ yng Ngheredigion gan Dr Rhiannon Ifans prynhawn Sadwrn 14 Rhagfyr am 2.30 o’r gloch yn Yr Hen Neuadd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (mae’r Hen Neuadd gyferbyn â Chapel y Brifysgol yn Adeilad Dewi Sant). Bydd y ddarlith yn Gymraeg ond darperir cyfieithu ar y pryd.
Croeso cynnes i bawb.