Dyma gyfle olaf i chi gynnwys newyddion a lluniau ym Mhapur Bro Clonc cyn yr Haf. Does dim rhifyn ym mis Awst. pic.twitter.com/QRRIZwmlYz
— Papur Bro Clonc (@Cloncyn) June 18, 2021
Dim Steddfod na Sioe eleni, ond bwydo’r G7.
Cwmni o Lanwenog yn rhan o wasanaeth arlwyo’r uwchgynhadledd yng Nghernyw.
Darllen rhagor“Bu rhaid cynnal gweithgareddau gwahanol a dyfeisgar gan nad oedd yn bosibl casglu o dŷ i dŷ yn ôl yr arfer.” Pwyllgor Apêl Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch yn codi dros £6,300! Mwy mewn fideo ar wefan #Clonc360.https://t.co/dUgWvOYyJl
— Clonc 360 (@Clonc360) June 18, 2021
Penodi Hazel Thomas yn gydlynydd prosiect i hyrwyddo bwyd lleol a chynaliadwyedd
“Mae Prosiect Canolfan Tir Glas yn brosiect hirdymor, ac mae pob elfen o'r weledigaeth yn apelio at fy niddordebau mewn cynaliadwyedd"
Darllen rhagorDisgyblion @YsgolBroPedr a @sionmun – Take a Bow. ?
Am furlun i gyfleu’r ardal ar ei ore! ? ?#Gwych #Murlun@TheatrGenCymru pic.twitter.com/aAAMPQ3HKh
— Heno ??????? (@HenoS4C) June 18, 2021
? Pwyllgor Apêl Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn codi dros £6,300!
Diolch o galon i drigolion ardal Llanbed am eu haelioni tuag at Cymorth Cristnogol.
Darllen rhagorDiolch @YsgolBroPedr am y croeso cynnes heddiw❤️ wedi mwynhau gweithio ar y prosiect bach yma yng nghwmni @sionmun. Creu murlun drwy fodd creadigol gyda’r Adran Sgiliau Bywyd? Gyda chefnogaeth @wpduk ac @AandBCymru ❤️ @TheatrGenCymru @elinmmannion pic.twitter.com/QETJe3CoeX
— Sian Elin Williams / Siani Sionc (@SianElin16) June 17, 2021
Bu Beca bl.13 yn cystadlu yn y naid driphlyg yng Nghaerfyrddin, Aberdâr a Yate yn ddiweddar gan ennill y gystadleuaeth dan 20 oed a chael ei ‘personal best’ gan neidio 11m 44cm. Da iawn ti! Hi sy’n rhif 1 yng Nghymru yn y naid driphlyg ar hyn o bryd. Arbennig!
— Ysgol Bro Pedr (@YsgolBroPedr) June 17, 2021
Dros y penwythnos buodd Osian bl.10 yn cystadlu yng Nghasnewydd, lle neidiodd 1m88cm yng nghystadleuaeth y naid uchel a’i roi yn y safle cyntaf yn adran y bechgyn o dan 17 oed yng Nghymru. Roedd hefyd wedi rhedeg y clwydi 100m, gan ennill a’i roi yn y safle cyntaf yng Nghymru!
— Ysgol Bro Pedr (@YsgolBroPedr) June 17, 2021
Llongyfarchiadau mawr i Casi 8Pedr sydd wedi cael ei dewis fel rhan o Academi (FAW Trust Girls Academy South) Pêl-droed Merched Cymru dan 14. Arbennig Casi! pic.twitter.com/gUJmniiG3p
— Ysgol Bro Pedr (@YsgolBroPedr) June 17, 2021