Y Brifysgol yn trafod gydag Aldi am ddatblygu Caeau Chwarae Pontfaen

Codi archfarchnad, sefydlu pentref bwyd, adnewyddu’r pafiliwn criced a chadw rhan o’r cae chwarae.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yr hen Bafiliwn Criced ar gaeau chwarae’r brifysgol ar Ffordd Pontfaen. Llun gan Morfudd Slaymaker.

Rhyddhaodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddatganiad heno yn cyhoeddi ei bod yn creu academi bwyd a menter wledig, Canolfan Tir Glas yn Llanbed a bod y Brifysgol yn gweithio gyda chwmni Aldi ar ddatblygu’r cysyniad.

Wedi iddi gymryd rhan mewn trafodaethau diweddar ar ddyfodol y dref trwy’r fenter ‘Trawsnewid Llambed’, mae’r Brifysgol wedi nodi cyfle i adeiladu cydnerthedd economaidd a fydd yn cefnogi amcanion ‘Blaenoriaethau Economaidd Strategol ar gyfer Rhanbarth Canolbarth Cymru’ o fewn Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru, a strategaeth economaidd Cyngor Sir Ceredigion ei hun.

Er mwyn hwyluso datblygiad o’r fath, mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio’n agos â’r mân-werthwr bwyd disgownt Aldi i ddatblygu’r cysyniad o bentref bwyd a allai gyfrannu’n sylweddol at adfywiad economaidd y dref a’r cyffiniau yn ogystal â hyrwyddo Llanbed fel cyrchfan o bwys i siopwyr o bob rhan o’r rhanbarth a thu hwnt.

Bwriada’r Brifysgol leoli’r pentref bwyd ar ran fechan o gaeau chwarae’r Brifysgol ym Mhontfaen a byddai’n cynnwys archfarchnad Aldi newydd sbon ynghyd â chlwstwr o gabannau bwyd lleol o’i hamgylch i hyrwyddo cynnyrch lleol ac annog creu microfusnesau newydd yn gysylltiedig â’r diwydiant bwyd. Byddai’r Brifysgol yn cadw gweddill y tir i’w ddefnyddio gan ei myfyrwyr a’r gymuned leol ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Ymateb gymysg sydd wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol heno.  Ar un llaw mae carfan o bobl yn dymuno gweld y brifysgol yn gwneud rhywbeth â’r cae er mwyn dod â gwaith i’r ardal.  Mae yna alw’n lleol hefyd am siop sy’n gwerthu bwyd a nwyddau’n rhatach na’r archfarchnadoedd presennol.

Ond ar y llaw arall mae yna bryderon.  Beth am barcio?  Byddai’r datblygiad hwn yn cymryd mwy na “rhan fechan” o’r caeau.  A fydd y swyddi newydd hyn yn gwneud iawn am yr holl swyddi a gollwyd yn y brifysgol?  Beth fydd dyfodol swyddi yn y ddwy archfarchnad arall gyda dyfodiad archfarchnad discownt newydd yn y dref?  Ai ffordd o gyfiawnhau gwerthu rhagor o eiddo’r Brifysgol yn Llanbed yw hyn?

Bu sibrydion ers rhai wythnosau bod gan gwmni Aldi ddiddordeb mewn sefydlu archfarchnad newydd yn lleol.  Ond cafwyd deiseb arlein dros y penwythnos gan gyn fyfyriwr yn poeni am fuddiannau’r brifysgol yn Llanbed.

Ai Canolfan Tir Glas yw’r ateb felly er mwyn ailsefydlu’r brifysgol yn y dref?  Mae yna le felly i ganmol y weledigaeth pe wireddir y cynlluniau.

Dywed y datganiad heno y byddai’r pentref bwyd mewn sefyllfa ddelfrydol i adeiladu ar lwyddiant yr Ŵyl Fwyd flynyddol yn Llanbed gan weithredu fel llwyfan i ddathlu a marchnata’r diwydiant bwyd llewyrchus sydd eisoes yn bodoli yng Ngheredigion ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Byddai hefyd yn creu hyd at 40 o swyddi newydd i’r ardal a fyddai’n talu cyflogau cystadleuol o fewn y diwydiant o oddeutu £9.40 yr awr o leiaf.

‘Mae’r bartneriaeth agos rhwng y Brifysgol ac Aldi yn cynnig cyfle i ddatblygu gweledigaeth gyffrous ar gyfer Llambed a’r cyffiniau,’ meddai Emyr Jones, Pennaeth Datblygu Eiddo yn y Brifysgol. ‘Mae’n fodd o bontio campws y Brifysgol â’r gymuned gan hefyd weithredu fel catalydd ar gyfer datblygiadau pellach yn ymwneud â’r diwydiant bwyd yn y sir.’

Ychwanegodd Rob Jones, Cyfarwyddwr Eiddo Rhanbarthol Aldi,

Mae’n dal i fod yn gynnar yn y broses, fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r Brifysgol i sicrhau bod buddion ein cynigion ar y cyd – megis mwy o ddewis o siopau yn lleol, nifer sylweddol o swyddi sy’n talu’n dda, a buddion economaidd y buddsoddiad hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd – yn bwydo i mewn i weledigaeth ehangach y Brifysgol. Byddwn yn cynnal rhaglen lawn o ymgynghori cyhoeddus maes o law i ddarparu rhagor o wybodaeth a cheisio adborth lleol ar y cynlluniau.’

Fel rhan o’r datblygiad, mae’r Brifysgol yn awyddus iawn i fuddsoddi yn y pafiliwn a’r cae chwarae, gan sicrhau y byddant yn adnoddau o safon y gellid eu defnyddio gan fyfyrwyr y Brifysgol a chlybiau chwaraeon yn y gymuned.

Tua 30% yn unig o’r tir fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer y pentref bwyd,’ meddai Emyr Jones.  ‘Bydd gweddill y tir ar gael i’w ddefnyddio at bwrpasau chwaraeon gyda’r pafiliwn yn cael ei uwchraddio fel y gall ddatblygu i fod yn adnodd cymunedol o bwys.  Bydd ei leoliad hefyd yn ei alluogi i gefnogi gweithgarwch y pentref bwyd gydag arddangosfeydd a dosbarthiadau meistr yn cael eu cynnal yno.’

Mae mentrau Canolfan Tir Glas a’r pentref bwyd yn rhan o ymrwymiad hirdymor y Brifysgol i Lanbed fel un o sefydliadau craidd y dref.

‘Mae’r Brifysgol wedi’i hymrwymo’n llwyr i Gampws Llambed a’i gwricwlwm ym maes y Dyniaethau,’ eglurodd Gwilym Dyfri Jones, Profost y Campws.  ‘Dros y degawd diwethaf mae’r Brifysgol wedi buddsoddi dros £10m yn isadeiledd y campws a bydd yn parhau i wneud hynny yng nghyswllt prosiectau penodol megis mentrau Canolfan Tir Glas a’r pentref bwyd a fydd yn caniatáu i’r campws dyfu yn y dyfodol. Er mwyn i Lambed oroesi mae’n rhaid iddi newid a manteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai ddod i’w rhan. Nid yw’r status quo yn opsiwn.’

Cadarnhawyd ar facebook heno hefyd y bydd swyddogion y Brifysgol yn mynychu cyfarfod nesaf Cyngor y Dref i esbonio cynllun ‘Canolfan Tir Glas’.