Ken Gwarallt yn cyfnewid cap â’r Welsh Whisperer

Cymeriad Bro rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
CEA76049-DE4F-401B-8E86

Ken Howells o Lanllwni yw Cymeriad Bro rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc lle ceir portread hyfryd ohonno gan ei wyres Sioned.

Mae e wrth ei fodd yn y Claas yn gwneud amryw o dasgau o gwmpas y fferm, boed hynny’n torri’r silwair, yn hoi ffertiliser neu’n mynd mas â’r slyri. Fe’i welir yn aml yn y Gator hefyd yn casglu’r da godro neu’n symud ffens gyda’i ffrind ffyddlon Spot y ci.

Mae pawb sy’n nabod Ken Gwarallt yn gwybod ei fod e’n mynd i bobman gyda’i gap, ac yn ddiweddar fe gawsom ymweliad gan y Welsh Whisperer i ffilmio ar gyfer ei gyfres newydd ar S4C yn y flwyddyn newydd. Wedi prynhawn o ffilmio, roedd y Welsh Whisperer yn ysu am drwco cap gyda Dad-cu gan fod ‘grân gwaith’ arno, a Mam-gu yr un mor falch bod Dad-cu wedi cael cap newydd, glân gan y Welsh Whisperer!

Er mwyn darllen y portread i gyd, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc ar gael nawr mewn siopau lleol neu drwy danysgrifio ar y we.