#Clonc40 – Canolbwyntio ar newyddion misoedd Medi a ymddangosodd ym Mhapur Bro Clonc

Edrych yn ôl ar y straeon mis Medi’r ganrif ddiwethaf ar achlysur Pen-blwydd Clonc yn 40 oed

gan Yvonne Davies

Clonc mis Medi 1986.

Dros y blynyddoedd mae rhifyn Mis Medi wedi dod ag adroddiadau a lluniau o’r sioeau lleol a Sioe Llanelwedd, ynghyd ag Eisteddfodau Rhys Thomas James, Pantyfedwen a’r Genedlaethol. Ond fe fu yna eithriad ym 1984; gan fod 3 rhifyn Clonc wedi eu hargraffu yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst, ni chaed rhifyn ym Mis Medi y flwyddyn honno.

1982

Llanybydder: Fandaliaid yn llosgi’r pafiliwn chwareuon yn Heol y Gaer.

Cwrtnewydd: Croesawu Tydfor Jenkins yn ôl o’r Falklands.

Cwmann: Symud y gof-golofn o sgwâr Cwmann i’w safle presennol.

1983

Cwmsychpant: Jack Davies, Rallt, yn derbyn medal am wasanaeth hir (49 mlynedd) i amaethyddiaeth, yn Sioe Llanelwedd.

Llanwnnen: Picton Jones yn ennill 12 cyntaf, 9 ail, 2 trydydd, ail orau yn y Sioe, cwpan am y ‘Best Large’, a Medal Efydd yn Sioe Llanelwedd.

Eisteddfod: Côr plant yr ardal yn canu yn Eisteddfod Llangefni i groesawi’r Eisteddfod i Lanbed ym 1984.

Timothy Evans yn cael teitl “Pavarotti’r Ail’ ar faes yr un Eisteddfod.

1984 (Awst) 

Dydd Mawrth yr Eisteddfod.

Clonc’ yn sgwrsio â Geoff Charles.

Cymwynaswr Bro – Hanes Ffos Davies.

Llun y merched fu’n smwddio dillad yr Orsedd.

Portread o Rosanne Reeves – ffrind i Siwperted a Dai Tecsas.

Adolygiadau di-ri.

Teyrngedau i D. Jacob Davies a J. R. Evans.

Dydd Iau.

‘Clonc’ yn sgwrsio â’r Archdderwydd W. J. Gruffydd.

John Roderick Rees yn ennill y Goron.

“Rosalind” – hanes Rosalind Lloyd.

Cymwynaswyr Bro – Dan Jenkins, Llancrwys.

Modryb Eiddwen James – Helen Richards, Illinois (90 oed) – Arweinydd y Cymry ar Wasgar”.

Dydd Sadwrn

T. Llew Jones – o’r Babell Lên.

Cymwynaswr Bro – Ted Morgan.

Pasiant yr Ysgolion Meithrin ‘Y Cardi Bach’.

Gillian Elisa.

Llun merch ar ben ysgol, yn sownd yn y Pafiliwn!!

Lluniau’n edrych nôl dros yr wythnos.

1985

Llanwenog: Gŵyl flodau ac arddangosfa yn yr Eglwys i ddathlu 500 mlwyddiant y twr a godwyd yn 1485 i gofio am fuddugoliaeth y Tuduriaid ar Faes Bosworth.

Llangybi: Graham Williams yn mynd ar ei feic am 1000 o filltiroedd i godi arian i Ysgol y Dderi, ac i genhades ifanc yn y Swdan.

1986

Llanbed: Gwisg newydd i blant Ysgol Ffynnonbedr.

Siop ddillad ‘Bon Marche’ yn cau.

Llanybydder: Daniel Chandler yn ennill cystadleuaeth y Sunday Times’ – creu meddalwedd i gyfrifiaduron.

1987

Canmlwyddiant Sioe Llanbed – adroddiad a lluniau.

Yr Urdd yn gwahodd yr Wyl Ddrama Genedlaethol i Ddyffryn Aeron a’r Fro.

Gorsgoch: Mrs Beryl Llewelyn yn ymddeol fel Prifathrawes yr Ysgol.

1988

Llanbed: Eisteddfod Rhys Thomas James yn 21 oed.

Islwyn Rees, Greenfield Tce., yn cynrychioi Cymru yn y ‘Naid Polyn’ mewn mabolgampau yn Oslo.

Alltyblacca: Mrs Eunice Williams, Tegfryn yn ennill y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Llanbed ar ‘Hanes Capel Esgerdawe’.

Llanwnnen: Mrs Alice Davies yn ymddeol o’i swydd fel Prifathrawes.

1989

Llanbed: Dafydd Iwan yn dathlu ei benblwydd yn y Clwb Rygbi – ar ôl Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Rhys Thomas James.

Llanybydder: Canolfan gêm rhyngwladol ‘Coetio’ rhwng Cymru a’r Alban; tìm Cymru’n fuddugol.

1990

Llanbed: Rhian Jones, Gerlan yn ennill y Gadair dan 25 yn Eisteddiou Rhys Thomas James.

Cwmann: Miss Gwenda Thomas yn ymddeol fel athrawes yn ysgol Coedmor.

Lynda Jones, Coedmor Hall yn Frenhines y 3 Sir yng Nghaerfyrddin.

1991

Llangybi: Agoriad Swyddogol Tafarn yr Hen Ysgol.

Llanbed: Sefydliad y Merched yn 75 oed.

Cwmann: Pwyllgor y Pentref yn ail-sefydlu ‘Ffair Ram’.

1992

Llanbed: Agor y Ganolfan iaith’ yn yr Ysgol Gyfun.

Idris Reynolds yn ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mrs. Cynthia Griffiths yn ymddeol fel athrawes yn ysgol Ffynnonbedr wedi 34 o flynyddoedd.

1993

Yr Eisteddfod Genedlaethol: gwragedd lleol yn cael eu derbyn i’r Orsedd. Mrs Ray Davies a Mrs Janet Evans ( gwisg werdd); Mair Evans a lona Warmington (gwisg las), a dyrchafwyd Dr Catherine Jenkins i’r Wisg Wen.

Llanwenog: Yr ysgol yn cael maes chwarae drwy garedigrwydd teulu Abertegan.

1994

Cellan: Rhodri Thomas Llain-dêg – Capten tîm saethu ieuenctid Cymru.

Silian: Teulu Gwarffynnon yn derbyn Tystysgrif a tharian Sioe Amaethyddol Cymru am y fferm mwyaf tacius a chymen.

Gorsgoch: Capel Brynhafod yn cyflwyno rhodd i Mrs. Mattie Evans, Gors Villa am ei gwaith fel Trysorydd y Capel am 30 o flynyddoedd.

1995

Llanbed: Jan Harris – enillydd Tlws y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn. Shân Cothi yn ennill y Rhuban Glas.

Llanybydder: Dathlu 100 mlwyddiant Evans Bros.

Llanfair: Graham Williams yn derbyn medal gwasanaeth oes yn Sioe Llanelwedd (45 o flynyddoedd gyda theulu Nantymedd).

Cwmann: Yr Arlywydd Jimmy Carter yn ciniawa yn Nhafarn y Ram.

Llanwnnen: Picton Jones wedi mynd â 63 o ffowls i Sioe Llanelwedd, a 59 ohonynt yn cael eu gwobrwyo. Tipyn o gamp!!

1996

C.Ff.I. Llanwenog: Tair o’r aelodau wedi eu derbyn i’r Orsedd yn Llandeilo; Carys a Heiddwen Griffiths, a Catrin Bellamy (gwisg werdd).

Cwmann: Rhys Williams yn ennill y gystadleuaeth ‘Sgript i 3 sgets’ yn adran y Ddrama yn Llandeilo.

Yr Ysgol Gyfun: Cyn-ddisgyblion blwyddyn 57 yn cyflwyno ‘Darllenfa’ i’r ysgol er côf am y rhai o’u blwyddyn a fu farw.

Cwmsychpant: Sion Jenkins Cathal yn ‘Ffermwr y flwyddyn’, ac yn derbyn £500 drwy nawdd y Western Mail yn y Sioe Llanelwedd.

Llanybydder: Clwb Criced yn bencampwyr cyngrair Cenedlaethol Gorllewin Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

1997

Llanwnnen: Picton a Helena wedi priodi.

Llanbed: Siop y Smotyn Du yn agor. Côr o Batagonia yn ymweld â’r dre.

Cwmann: C.Ff.I. Cwmann yn ‘Clwb y flwyddyn yn Sioe Llanelwedd.

Cwrtnewydd: Huw Evans, Alltgoch yn ennill y wobr gyntaf am Gerdd Rydd heb fod dros 40 llinell yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, a Choron Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbed.

1998

Llanbed: Gosod mainc ar Rhodfa Glynhebog er côf am Lloyd Davies, Pontfaen.

‘Golwg’ yn 10 oed.

Busnes yn newid dwylo- “Canolfan arddio Trefhedyn’ nawr yn “Ganolfan arddio Robert’.

Llanwnnen: Etholwyd Picton Jones yn Lywodraethwr Anrhydeddus am oes yn Sioe Frenhinol Cymru am ei wasanaeth hir a diflino yn adran y dofednod.

1999

Llanbed: Anwen Butten – Pencampwraig Bowlio lau Ynysoedd Prydain

Llanybydder: Neidr (Python) 12 troedfedd ar fferm Glantrenfach.

Cwrtnewydd: Mrs. Sulwen Thomas yn ymddeol o’i swydd fel prifathrawes.

Cap Cymru i Evan James, Garth gyda thîm Coets Cymru, ac yn ennill y cwpan i’r aelod a sicrhaodd fwyaf o bwyntiau i’r tîm.

Drefach: Nia Davies, Maesglas wedi cadw Llyfrau Lloffion adeg Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ’99. Mae ganddi 10 ohonynt – 262 o dudalennau. Archif dda i’r dyfodol!!

Dyma’r uchafbwyntiau a gyhoeddwyd gennyf hyd yma:

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

Gorffennaf

Fe ddaw uchafbwyntiau mis Hydref cyn bo hir.