Y Drindod Dewi Sant yn croesawu Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru i Lambed.

Bwyd, ffermio a’r economi yn dod o dan y chwyddwydr yn Llambed

gan Lowri Thomas

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at groesawu pedwaredd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru i gampws Llambed ym mis Tachwedd lle bydd bwyd, ffermio a’r economi yn dod o dan y chwyddwydr yn y digwyddiad blynyddol hwn.

Sefydlwyd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (Wales Real Food and Farming Conference – WRFFC) er mwyn archwilio bwyd a ffermio cynaliadwy, gan ddod â ffermwyr, busnesau bwyd eraill, amgylcheddwyr a phobl sy’n ymwneud ag iechyd gyhoeddus, addysg fwyd, sofraniaeth fwyd a chyfiawnder cymdeithasol ynghyd.

Bwriad y gynhadledd yw i geisio dechrau sgyrsiau a chymryd camau cadarnhaol ynglŷn â dyfodol bwyd yn ein gwlad, gan fapio system fwyd gynaliadwy i Gymru ar gyfer yr 21ain ganrif, ac ystyried sut y gallem ei hadeiladu.

Wedi’i hysbrydoli gan Gynhadledd Gwir Fwyd Rhydychen, cynhaliwyd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio gyntaf Cymru yn Aberystwyth yn 2019, ac eleni, mae’r gynhadledd yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb i wyneb ar gampws Llambed o’r Drindod Dewi Sant ar Dachwedd 23-25, 2022. Mae’r trefnyddion yn gweithio gyda menter newydd y Drindod Dewi Sant, sef Canolfan Tir Glas, sy’n arloesi perthynas newydd rhwng y Brifysgol, y gymuned a’r sectorau bwyd a ffermio. Bydd y gynhadledd hon felly yn archwilio sut y gellid gwireddu’r weledigaeth o ran bwyd a chymdeithas drwy ymgymryd â gweithred leol.

Mae cyfres o weithdai a sesiynau wedi’i chynllunio ar gyfer deuddydd cyntaf y gynhadledd, ac ar y diwrnod olaf, fe fydd cyfle i ymweld â phrosiectau lleol yr ardal. Yn ystod y gynhadledd bydd y ddarlledwraig BBC Radio 4 ac awdures fwyd Sheila Dillon yn cymryd rhan, yn ogystal â’r cyflwynydd Ffermio S4C Alun Elidyr, yr awdur a newyddiadurwr Jon Gower, y ffermwr a chyd-sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Trust) Patrick Holden CBE, a’r awdur Carwyn Graves.  Bydd amrywiaeth o bynciau’n cael eu cyflwyno’n ystod y sesiynnau hyn, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (Sustainable Farming Scheme), prydau ysgol, partneriaethau bwyd lleol, amaeth-goedwigaeth, iechyd pridd, addysg, tlodi bwyd, entrepreneuriaeth, a mynediad at dir.

Meddai Jane Powell, trefnydd y Gynhadledd:

“Mae’n amser heriol, ac felly, mae’n fwy o reswm i ni ddod ynghyd a rhannu’r hyn yr ydym yn ei wybod. Mae bwyd a ffermio yn sylfaenol i’n cymdeithas, ac mae gennym gyfle anferth yma i greu gweledigaeth ysbrydoledig ar gyfer ein dyfodol. Ar ôl dwy flynedd o fod ar-lein, mae cynnal digwyddiad wyneb i wyneb, a hwnnw yn Llambed, wedi ein gwefreiddio.”

Ychwanega Simon Wright, Cyfarwyddwr Bwyd ac Economi Wledig y Drindod Dewi Sant:

“Mae’n addas fod cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn cael ei chynnal yn Llambed ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth i ni  barhau i ddathlu daucanmlwyddiant man geni Addysg Uwch yng Nghymru.

“Rwyf wedi bod yn helpu’r Brifysgol i ffurfio ei syniadau ynglŷn â Chanolfan Tir Glas ac yn benodol, sefydlu ysgol fwyd newydd (Academi Bwyd Cyfoes Cymru).

“Mae’n hanfodol bod hwn yn cael ei weithredu, ac i ran helaeth, bydd y broses hon yn debyg i adeiladu heol a theithio arni ar yr un pryd. Mae angen i ni ymgynghori, mae angen i ni gynllunio, ac mae angen i ni fod yn strategol, ond ar yr un pryd, rydym am ddechrau cyflawni a gwneud gwahaniaeth ymarferol go iawn, ac erbyn daw’r gynhadledd ym mis Tachwedd, rydym yn gobeithio bod mewn sefyllfa i roi mwy o fanylion ynglŷn â sut olwg fydd gan y gweithgaredd hwn, a sut y gwnaiff esblygu.”

Caiff y gynhadledd ei noddi gan Ganolfan Tir Glas o’r Drindod Dewi Sant, Organic Farmers & Growers CIC, Hybu Cig Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw – Y  Woodland Trust yng Nghymru, Garden Organic, Synnwyr Bwyd Cymru (Food Sense Wales), Soil Association Certification, a’r Nature Friendly Farming Network.

Dywedodd Roger Kerr, Prif Weithredwr ardystwyr organig, Organic Farmers & Growers:

“Mae’n bleser mawr gennym gefnogi Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru. Wrth i ni wynebu’r heriau presennol, mae’n hanfodol ein bod ni’n cynnig gwell eglurder i bobl o ran sut mae’r dewisiadau maent yn eu gwneud wrth brynu cynhyrchion bwyd yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac at atal colli ein bioamrywiaeth. Mae’r rhain, ochr yn ochr â’r angen go iawn i ddarparu bwyd lleol ar gyfer pobl Cymru, yn ystyriaethau cynyddol bwysig.

“Dim ond drwy gydweithio ar draws Cymru gyfan y gallwn ni sicrhau cadernid a chryfder parhaus y sector ffermio yng Nghymru, ac ar yr un pryd darparu system fwyd sy’n llawer mwy cadarn a chynaliadwy.”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed o’r Drindod Dewi Sant:

“Mae cymuned Campws Llambed wrth ei bodd yn croesawu’r Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru ym mis Tachwedd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu deiliaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt i Geredigion i drafod a chytuno ar sut i adeiladu a datblygu system fwyd gynaliadwy i Gymru ar gyfer y dyfodol. Mae’r gynhadledd hon yn un bwysig iawn o ystyried yr heriau cyfredol sy’n wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd.”

Mae fwy o wybodaeth, a ffordd i archebu tocynnau ar gyfer y gynhadledd ar ei gwefan