Ydych chi am fentro i faes yr Eisteddfod? Os ydych, ychwanegwch luniau, fideos neu ysgrifen i’r blog byw yma plîs.
Perfformwyr talentog iawn yn sioe Cabarela yn y Pafiliwn heno. Sioe yn llawn tiwns, lliw, dawnsio a hiwmor.
Lily Beau yn y Tŷ Gwerin prynhawn ma. Perfformiad hyfryd.
Wrth i’r Eisteddfod ddod i ben am ddiwrnod arall, mae’r sylw yn troi at y gyngerdd nos heno, Cabarella ac i Faes B sy’n dechrau heno am 9!
Seremoni Cadeirio Capel y Groes pnawn ma ar stondin yr Undodiaid.
Wrth fy modd gyda pherfformiad Mellt yng Nghaffi Maes B. Byddan nhw’n perfformio eto ar Lwyfan y Maes am 19.20.
Perfformiad gwych gan Gôr Bytholwyrdd heddiw yn y Pafiliwn dan arweiniad Rhiannon Lewis gyda Lois Williams yn cyfeilio.
Huw Evans, Alltgoch yn ennill cystadleuaeth y soned. Cafodd ei wobrwyo yn y Babell Lên pnawn ma. ‘Hud’ oedd y testun.
Côr Hen Nodiant o Gaerdydd yn 1af
Côr Encore, Sir Fôn yn 2il
Côr Nefi Blw o Gaerdydd yn 3ydd
Dim lwc i Bytholwyrdd heddi. Tro nesa’.
Iestyn Evans yn traddodi’r feirniadaeth y Côr 60+.
Meinir Pierce Jones o Morfa Nefyn yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen.