Bore addawol heddi wedi galw dros nos.
Ydych chi’n dod i’r Steddfod heddi? Ychwanegwch eich llunie a’ch fideos i’r blog byw yma plîs.
Huw Evans Alltgoch yn ennill heddiw eto yn y Babell Lên. Y tro yma am eiriau i gân. Llongyfarchiadau Huw!
Criw Merched Y Wawr wrth eu boddau yn arddargos eu creadigaeth ar hyd y maes – sgarff 400m o hyd i ddathlu gwlân Cymreig!
Goleuadau ffôn yn goleuo awyr Tregaron wrth i Candelas ganu ar Lwyfan y Maes.
Mesen, neu Sioned Erin Hughes o Lŷn yw enillydd y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Daeth 17 ymgais i law.
Y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth hon oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.
Gofynion y gystadleuaeth oedd i ysgrifennu cyfrol o ryddiaeth greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau dan y testun, Dianc.
Traddododd Meg Elis y feirniadaeth gan gyfeirio at bod y tri yn cytuno am y tri a ddaw i’r brig.
Er bod teilyngdod, cafwyd ambell feirniadaeth damiol wrth fod ‘dim arwydd o arbenigedd’ gan rai o’r ymgeiswyr.
Dechrau ar seremoni’r Fedal Ryddiaeth- a fydd teilyngdod?
Ysgol Gerdd Ceredigion, Gorllewin Sir Gâr a Gogledd Sir Benfro yn ennill y cystadleuaeth Côr Ieuenctid o dan 25 oed.
Jo Healy yw Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Neges a chanmoliaeth i’r cyfryngau yn y seremoni hefyd:
Parhewch i ddefnyddio’r pedwar sydd wedi dod i’r brig.
Tomos Bwlch ac Ifan Jones-Evans wedi cyrraedd stondin FUW!
Disgyblion Ysgol Bro Pedr yn diddanu ar Lwyfan Ni ger Pabell Ceredigion ar y Maes.
Carys Griffiths-Jones, Cwrtnewydd a Dafydd Jones, Ciliau Aeron yn cystadlu yn y Ddeuawd Cerdd Dant dros 21 oed.